Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol Busnes Adwerthu (Dyfarniad Technegol)
Am help gydag e-gyflwyno cliciwch yma.
Mae’r tasgau Asesiad Di-arholiad yn newid bob blwyddyn a gellir eu lawrlwytho o’r wefan ddiogel. Mae’r tasgau hyn ar gael bob mis Medi.
Gellir rhoi marciau’r Asesiad Di-arholiad ar gyfer cyfres yr haf ar Porth o 10 Mawrth ymlaen. Y dyddiad olaf i gyflwyno'r gwaith yw 5 Mai. O dan 'Pob gwasanaeth / Arholiadau ac Asesu / Marciau a Chanlyniadau Asesiadau Mewnol’ ar Porth mae'r marciau yn cael eu rhoi a'r gwaith yn cael ei uwchlwytho.
Bydd ein Dyfarniad Galwedigaethol mewn Busnes Adwerthu yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o'r sector busnes adwerthu ac yn rhoi cyfleoedd iddynt feithrin sgiliau ymarferol cysylltiedig. Mae'n ymdrin â busnes adwerthu, gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer busnes adwerthu a marsiandïo a marchnata cynhyrchion adwerthu.
Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol Busnes Adwerthu Cydymaith Cwrs 978-1-86085-750-8 |
|
![]() |
Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer cwrs Dyfarniad Galwediaethol Lefel 1/2 Busnes Adwerthu CBAC ac Eduqas. Mae’n addas ar gyfer myfyrwyr o bob gallu, ac mae’n ymdrin â’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw wrth iddyn nhw ddilyn y cwrs.
Dros y 35 mlynedd diwethaf, mae Sharan Oliver wedi dysgu sawl cymhwyster Busnes, yn ogystal â phynciau galwedigaethol eraill. Mae ganddi brofiad o farcio ystod o arholiadau cenedlaethol yn ei rôl fel Uwch Arholwr Busnes Adwerthu dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae Sharan wedi chwarae rhan flaengar yn y broses o ddatblygu manylebau a chynhyrchu adnoddau addysgol, gan gynnwys adnoddau digidol a deunyddiau DPP.
> Gall canolfannau archebu heddiw trwy lenwi'r ffurflen hon, neu gallwch archebu ar Amazon |


Rhag
Mai