Cyflwyniad i Dechnolegau Gweithgynhyrchu Uwch (Lled-Ddargludyddion)
Dysgu: Ebr 2024
Codau Cyfeirio
Mae CBAC Lefel 2 Cyflwyniad i Dechnolegau Gweithgynhyrchu Uwch (Lled-ddargludyddion) yn cyflwyno dysgwyr i dechnolegau gweithgynhyrchu uwch gyda ffocws penodol ar led-ddargludyddion a'r diwydiant lled-ddargludyddion.
Fe'i cynlluniwyd ar gyfer unigolion heb ddim neu brin ddim cefndir ym maes peirianneg sydd am ddysgu am y sector a'r llwybrau gyrfa sydd ar gael. Mae unedau wedi cael eu datblygu i roi sylfaen o wybodaeth a dealltwriaeth i ddysgwyr sy'n berthnasol i'r sector, ynghyd â'r cyfle i ddatblygu sgiliau technegol a fydd yn cefnogi eu dilyniant i ddysgu pellach.
Gall canolfannau ddewis a chyfuno unedau i ddatblygu rhaglenni dysgu hyblyg sy'n bodloni anghenion dysgwr unigol neu grŵp o ddysgwyr. Mae pob uned wedi cael gwerth credyd a bydd cyfanswm nifer y credydau y bydd dysgwr yn eu cyflawni yn pennu maint y cymhwyster a ddyfernir iddynt.
Er nad yw CBAC Lefel 2 Cyflwyniad i Dechnolegau Gweithgynhyrchu Uwch (Lled-ddargludyddion) wedi'i gynllunio i arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth, bydd yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau fydd yn eu paratoi nhw at gyflogaeth yn y dyfodol yn y diwydiant lled-ddargludyddion.

Oes gennych chi gwestiwn?
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.