Cyflwyno manylebau Gwneud-i-Gymru i gael eu cymeradwyo

Cyflwyno manylebau Gwneud-i-Gymru i gael eu cymeradwyo

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ein manylebau drafft ar gyfer y don gyntaf o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig wedi'u cyflwyno i Cymwysterau Cymru i'w cymeradwyo. Bydd y 18 manyleb newydd hyn ar gael i ganolfannau i'w cyflwyno o fis Medi 2025 ac maent wedi'u cynllunio i gefnogi dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru.

Dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau, wrth sôn am y gamp sylweddol hon: "Ar ran CBAC, hoffwn ddiolch i'n hysgrifenwyr ac adolygwyr, ein grwpiau cynghori, timau'r pynciau a'n Tîm Datblygu Cymwysterau am eu cyfranogiad gweithredol ac am sicrhau ein bod wedi cyflwyno'r manylebau hyn, sydd o ansawdd uchel, i Cymwysterau Cymru yn brydlon.

Roeddem yn falch iawn o ansawdd ein cyflwyniadau. Credaf mai ein dull cyd-awduro o ddatblygu'r cymwysterau ac ymrwymiad ac arbenigedd ein staff sydd wedi arwain at hyn. Rydym wedi mynd ati i ymgysylltu a gwrando ar amrywiaeth eang o randdeiliaid i sicrhau bod y cymwysterau hyn yn gynhwysol, yn amrywiol ac yn gallu cefnogi dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru.

Rydym yn hyderus y bydd ein cymwysterau newydd yn ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb dysgwyr ledled Cymru drwy ddarparu cyfleoedd newydd ac wedi'u diweddaru iddynt i ennill amrywiaeth eang o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau. Ar ben hynny, rydym wedi ystyried ein hathrawon wrth gynllunio pob cymhwyster, gan sicrhau y gall y manylebau roi cyfleoedd cyffrous iddynt ymgorffori agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru.

Edrychwn ymlaen at rannu ein manylebau drafft â'n canolfannau yn fuan, unwaith y byddwn wedi eu diweddaru yn dilyn adborth gan ein rheoleiddiwr, ac unwaith eto hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r datblygiad cyffrous hwn ar gyfer addysg yng Nghymru.”

Bydd y manylebau drafft ar gael ar ein gwefan yn ystod tymor yr haf, gyda'r fersiynau terfynol sydd wedi'u cymeradwyo yn cael eu cyhoeddi o fis Medi.  Ym mis Rhagfyr, bydd pecyn asesu cynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ar gyfer pob cymhwyster, a fydd yn cynnwys trefniadau asesu manwl a deunyddiau asesu enghreifftiol, a bydd Canllawiau Addysgu yn dilyn ym mis Ionawr.

Amlinelliadau o'r Cymwysterau – cyflwyniadau SWAY rhyngweithiol

Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd fersiynau terfynol o'r Amlinelliadau o'r Cymwysterau, ochr yn ochr ag Adroddiad Ymgynghori sy'n amlinellu'r camau yr ydym wedi'u cymryd, yn seiliedig ar ganlyniadau ein hymgynghoriadau.

Yn ogystal â'r deunyddiau hyn, mae ein timau hefyd wedi datblygu cyflwyniadau Sway rhyngweithiol, unigol sy'n rhoi mwy o syniad ynglŷn â’n dull o ddatblygu pob cymhwyster. Mae'r rhain ar gael ar dudalennau'r pynciau.

Dysgu Proffesiynol RHAD AC AM DDIM

Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn, rydym yn cyflwyno amserlen gynhwysfawr o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau cenedlaethol hyn sy'n RHAD AC AM DDIM ar gael i ganolfannau ledled Cymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig a fydd yn rhoi cipolwg ar bob cymhwyster ac yn cynnig cyngor ac arweiniad pragmataidd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, gan gynnwys ein Sioeau Teithiol Ledled Cymru ar gael yma.

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r TGAU newydd.