Amdanom Ni


Wedi ymrwymo i gefnogi ein cymunedau addysg

CBAC yw'r darparwr cymwysterau mwyaf i ysgolion, colegau chweched dosbarth a cholegau addysg bellach ar draws Cymru, gan gynnig cymwysterau gwerthfawr sy'n addas ar gyfer ystod o alluoedd. Mae pob un o'n cymwysterau wedi'u llunio i ysgogi myfyrwyr a'u cymhwyso ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau.  

   

Sefydlwyd CBAC yn 1948, gan ddeillio o gonsortia o awdurdodau addysg lleol a bellach mae CBAC yn elusen gofrestredig, ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Fe'i rheolir o ddydd i ddydd gan ein Tîm Arwain Gweithredol, gefnogir gan dros 450 o staff.  

   

Ar ôl cyflwyno cymwysterau cyffredinol wedi'u diwygio yn 2015, CBAC bellach yw'r unig ddarparwr cymwysterau i ysgolion a cholegau sydd wedi'u hariannu gan y wladwriaeth ar draws y rhan fwyaf o bynciau TGAU ac UG/Safon Uwch. Felly, mae'n hanfodol o hyd ein bod yn cynnig cynhyrchion a gwasanaethau o'r ansawdd uchaf, gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob un o'n cymwysterau.  

   

Drwy weithio mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid allweddol yn ein cymunedau addysgol, gan gynnwys Ysgolion, Colegau, Consortia Rhanbarthol, a Cymwysterau Cymru, rydym wedi ymrwymo i wneud ein rhan wrth gefnogi arweiniad Llywodraeth Cymru i sicrhau fod Cymru â 'system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol’.

 

Ein ffocws yw sicrhau ein bod bob amser yn gwneud y penderfyniad cywir i athrawon. Ymdrechwn i weithio o'r gwaelod i fyny; gan wrando bob amser ar anghenion yr athrawon. Mae gweithio yn y ffordd hon yn sicrhau bod y gwaith a wnawn yn adlewyrchu anghenion ystafelloedd dosbarth ar draws Cymru.  

'Byddwn yn cefnogi ein cymunedau addysg trwy ddarparu cymwysterau dibynadwy a chefnogaeth arbenigol, er mwyn rhoi cyfle i'n dysgwyr gyrraedd eu potensial yn llawn.'