Deall taith eich papur arholiad: Golwg y tu ôl i'r llenni

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae eich papur arholiad yn cael ei ddatblygu, ei argraffu a'i farcio? Hwn yw eich cyfle chi i gael gwybod!

 

I daflu goleuni ar y broses hon, rydym wedi datblygu cyfres o fideos a fydd yn eich tywys drwy'r broses gyfan gam wrth gam. Byddwch yn dysgu am y dull cydweithredol sy'n gysylltiedig â dewis testunau a themâu'r papur, yn ogystal â'r camau trylwyr a gymerir i sicrhau bod deunyddiau asesu o ansawdd uchel yn cael eu cynhyrchu. Byddwn hyd yn oed yn eich tywys drwy'r broses farcio, fel y gallwch weld sut rydym yn gwerthuso eich perfformiad ac yn sicrhau eich bod yn cael y radd rydych yn ei haeddu.

 


 

Yn y fideo cyntaf hwn, byddwn yn siarad â Catherine Webster, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, i drafod y broses o greu'r papur arholiad. Mae Catherine yn rhoi golwg y tu ôl i'r llenni i ni ar y broses gydweithredol sy'n gysylltiedig â datblygu thema'r papur a dewis y cynnwys. Mae hi hefyd yn esbonio'r camau rheoli ansawdd a gymerir i sicrhau bod y papur arholiad yn deg, yn gywir, ac yn bodloni ein safonau uchel.

 

 


 

Yn yr ail fideo, rydym yn eistedd i lawr gyda Gavin Naish, Rheolwr Gweithredu Logisteg, i drafod y broses argraffu a danfon y papurau arholiad. Mae Gavin yn mynd â ni drwy'r broses aml-gam sy'n ymwneud ag argraffu a phacio papurau arholiad, gan gynnwys y gwahanol fesurau diogelwch sydd ar waith.  

 

 


 

Yn y trydydd fideo, sef yr un olaf, byddwn yn sgwrsio â Sally Melhuish, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymwysterau ac Asesu, i drafod y broses o farcio'r papurau arholiad. Mae Sally yn mynd â ni drwy'r broses ddethol ofalus sy'n ymwneud â dod o hyd i'r arholwyr mwyaf cymwys a'u recriwtio. Mae hi hefyd yn ein tywys drwy'r broses farcio, gan gynnwys y gweithdrefnau trylwyr sydd ar waith i sicrhau cysondeb a chywirdeb wrth farcio ar draws y gwahanol bapurau ac ymhlith arholwyr gwahanol.

 

 


 

Am wybodaeth bellach neu er mwyn rhoi adborth, e-bostiwch adborth@cbac.co.uk