Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n casglu eu canlyniadau Ionawr 2024 heddiw

Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n casglu eu canlyniadau Ionawr 2024 heddiw

Bydd dysgwyr Cymru yn casglu eu canlyniadau dros dro ar gyfer cyfres arholiadau Ionawr heddiw.

Yn ei sylw, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n casglu eu canlyniadau heddiw. Mae'r canlyniadau hyn wir yn dangos eu holl waith caled ac ymroddiad wrth astudio. Hoffem dynnu sylw hefyd at y gefnogaeth a'r arweiniad a gafwyd gan athrawon, darlithwyr a thimau ledled y wlad. Hynny sydd wedi galluogi'r myfyrwyr i lwyddo."

Canlyniad Dros Dro

Cyhoeddwyd canlyniadau ar gyfer y lefelau canlynol:

  • TGAU
  • Tystysgrifau Lefel 1 (Lladin)
  • Llwybrau Mynediad
  • Llwybrau Ieithoedd
  • Cymraeg Gwaith
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru)
  • Cydrannau Her Sgiliau - Bagloriaeth Cymru
  • Dyfarniadau Galwedigaethol Lefel 1 / Lefel 2 (Hen a dyfarniadau Technegol)

Gallwch weld y canlyniadau dros dro ar ein tudalen gwe Canlyniadau a Ffiniau Graddau.

Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau ac Apeliadau

Os yw dysgwr am gwestiynu'r marc a dderbyniodd, yna rydym yn ei gynghori i ddarllen yr arweiniad sydd ar gael ar y dudalen we ganlynol. Rhaid cyflwyno unrhyw gais drwy'r ysgol/coleg a byddan nhw'n gallu cynghori ynghylch y camau nesaf.

Noder, gall ymgeiswyr preifat gysylltu'n uniongyrchol â'n timau i wneud cais am y gwasanaethau a nodir uchod.

Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:

Jonathan Thomas
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand
jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 5102