Ceisiadau ar gyfer Bwrsari Gareth Pierce nawr ar agor

Ceisiadau ar gyfer Bwrsari Gareth Pierce nawr ar agor

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod trydydd rownd y ceisiadau ar gyfer Bwrsari Gareth Pierce bellach ar agor.

Er cof am ein cyn Brif Weithredwr, gwnaethom lansio Bwrsari Gareth Pierce yn 2022 i gefnogi myfyrwyr israddedig sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r cynllun bwrsari yn cefnogi 3 myfyriwr yn flynyddol ac mae'n cael ei weinyddu gyda chefnogaeth garedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ymhlith y cyn-dderbynwyr mae Efa Maher a Steffan Môn o Brifysgol Caerdydd ac Elen Davies o Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Efa Maher o Gasnewydd, "Mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hynod bwysig i mi, nid yn unig o ran amddiffyn a chynnal fy sgiliau ieithyddol, ond hefyd o ran fy hunaniaeth. Mae Mathemateg fel pwnc yn cynnig posibiliadau helaeth o ran gyrfa, felly bydd meithrin terminoleg yn y ddwy iaith yn ddefnyddiol pan fyddaf yn gweithio yn y maes yn y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar iawn i CBAC a'r Coleg Cymraeg am y bwrsari hwn."

Meini Prawf

Yn rhan o'r cynllun, rhoddir 3 bwrsari o £3,000 y flwyddyn i bob myfyriwr sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy'n gymwys hefyd i gael benthyciad myfyriwr yn seiliedig ar brawf modd. Gan mai grant yw'r arian a dderbynnir, nid yw'n ad-daladwy, gan leihau'r baich ariannol ar fyfyrwyr.

Gwneud cais

Mae ceisiadau ar gyfer myfyrwyr a fydd yn cychwyn eu hastudiaethau o fis Medi 2024 bellach ar agor. Mae manylion pellach am sut bydd y cynllun yn gweithio a sut i wneud cais ar gael drwy wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.