Neges gan ein Prif Weithredwr, Ian Morgan

Cyrraedd carreg filltir yn ein proses datblygu cymwysterau.

Neges gan ein Prif Weithredwr, Ian Morgan:

Wrth i ysgolion a cholegau ddychwelyd o'r hyn rwy'n obeithio oedd yn wyliau Pasg hamddenol, ac wrth i ni ddechrau paratoi ar gyfer cyfres yr haf sydd i ddod, hoffwn fyfyrio ar ddechrau llwyddiannus o'r flwyddyn i CBAC. Gydag ymgysylltiad cadarnhaol parhaus â rhanddeiliaid, mae ein llwybr tuag at ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig wedi symud ymlaen i'r cam nesaf.

Mae ein llinell amser cyhoeddi ar gyfer ein cymwysterau newydd yn datblygu’n gyflym ac ar y trywydd iawn Roeddem yn falch o gyhoeddi amlinelliadau ein cymwysterau ddechrau mis Ionawr, sydd wedi rhoi cyfle i'n cymunedau addysgu ddeall strwythur ac asesiadau cysylltiedig ein cymwysterau newydd.

Ers cyflawni'r garreg filltir hon, mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau wedi parhau i ymgysylltu a chydweithio wrth iddynt ddatblygu ein manylebau drafft. Rydym yn falch o gadarnhau bod y grŵp cyntaf o gymwysterau, i'w haddysgu o fis Medi 2025 wedi'u cyflwyno i Cymwysterau Cymru i'w cymeradwyo. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eu hadborth ac yn gobeithio rhannu ein manylebau drafft gyda'n hathrawon yn ystod tymor yr haf.

Ochr yn ochr â datblygu ein cymwysterau, mae ein timau wedi bod yn paratoi deunyddiau i gefnogi cyflwyno'r cymwysterau newydd hyn, gan gynnwys amserlen ddwyieithog gynhwysfawr o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno ar draws y wlad, ac yn cynnwys cymysgedd o gyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein, a fydd yn cael eu cyflwyno gan ein harbenigwyr pwnc. Mae pob cwrs wedi'i gynllunio i roi arweiniad i athrawon o ran cyflwyno ac asesu'r cymwysterau newydd hyn a byddant ar gael i ganolfannau ar draws Cymru yn rhad ac am ddim.

Hoffwn ddiolch am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Consortia Rhanbarthol a CYDAG sydd wedi galluogi ein tîm i hwyluso mynediad athrawon at ein cyfres o ddigwyddiadau "Paratoi i Addysgu" wyneb yn wyneb. Bydd rhagor o wybodaeth am yr amserlen hon a chefnogaeth ychwanegol yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Yn ychwanegol at ddatblygu'r cymwysterau 'Gwneud i Gymru', mae Cymwysterau Cymru newydd gyhoeddi cyfres newydd gyffrous o gymwysterau fel rhan o'u cynnig 'Cymwysterau 14-16' llawn. Mae ein timau'n gweithio'n weithredol gyda Cymwysterau Cymru, ac yn adolygu ffyrdd y gallwn ehangu ein portffolio presennol i wella'r cyfleoedd i ddysgwyr ar draws Cymru.

Er mwyn hyrwyddo ein gwaith datblygu pwysig ymhellach, cefais y fraint o siarad mewn digwyddiad Fforwm Polisïau Cymru fis diwethaf, lle cefais gyfle i gyflwyno ein dull o ddylunio a gweithredu ein cymwysterau newydd. Roeddwn yn hynod ddiolchgar am yr ymateb brwdfrydig tuag at ein dull ac am yr adborth adeiladol a gefais gan y cynrychiolwyr.

Ochr yn ochr â'r datblygiadau cyffrous hyn cefais y cyfle i ddathlu cyflawniadau ein dysgwyr yn ystod ein 10fed Gwobrau Delwedd Symudol. Yn ystod y digwyddiad hwn gwnaethom ddathlu'r cynyrchiadau delwedd symudol gorau gan fyfyrwyr sy'n astudio ein cymwysterau mewn Ffilm a'r Cyfryngau yn y Sefydliad Ffilm Prydeinig eiconig yn Llundain. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac mae'r gwaith a gafodd ei gynhyrchu gan y gwneuthurwyr ffilm y dyfodol hyn yn dangos y dyfodol disglair sydd o'u blaenau.

Eleni, fe wnaethom gyhoeddi'r ail rownd o dderbynwyr ar gyfer ein Bwrsari Gareth Pierce. Mae dau ddysgwr o Brifysgol Aberystwyth ac un o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn bwrsari o £3000 yr un i gyfrannu tuag at ei hastudiaethau Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n anrhydedd gweld y bwrsari hwn yn dod yn boblogaidd, sy'n dyst i'r angerdd ac ymroddiad a ddangosodd ein cyn Prif Weithredwr i'r Gymraeg a mathemateg.

Cefais y pleser o ymweld â Choleg Dewi Sant yng Nghaerdydd ac Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd yn Sir Benfro'r tymor diwethaf lle cefais gyfle i gwrdd â'r Prifathro, y Pennaeth ac aelodau'r staff addysgu, yn ogystal â phaneli o ddysgwyr i drafod testunau fel adnoddau adolygu, dysgu proffesiynol a'n cymwysterau newydd. Rwy'n mwynhau ymweld â'n hysgolion a'n colegau, gan ei fod nid yn unig yn caniatáu i'r athrawon a'r dysgwyr deimlo eu bod yn cael eu clywed, ond hefyd yn gyfle i drafod sut y gallwn ehangu'r gefnogaeth rydym yn ei gynnig.

Mae'r tymor nesaf yn gyfnod hynod brysur i ni, wrth i ni barhau ar ein llwybr datblygu cymwysterau a dechrau cyflwyno'r asesiadau ar gyfer cyfres arholiadau'r haf. Fodd bynnag, mae ein timau'n parhau i fod yn ymroddedig i'ch cefnogi yn ystod y cyfnod hwn a thu hwnt. Am y tro, rwy'n dymuno'r gorau i chi ar gyfer y tymor nesaf ac edrychaf ymlaen at rannu mwy o ddiweddariadau pwysig gyda chi yn y dyfodol agos.

Ian Morgan.