Cefnogwch ddyfodol adnoddau digidol

Cefnogwch ddyfodol adnoddau digidol

Wrth i ni barhau i ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig, mae ein tîm Adnoddau Digidol yn chwilio am awduron ac adolygwyr i gefnogi'r gwaith o greu pecyn newydd o adnoddau dysgu.

Bydd yr adnoddau arloesol hyn wedi'u cynllunio i gefnogi'r gwaith o weithredu a chyflwyno ein cymwysterau newydd, gan sicrhau eu bod yn cefnogi uchelgeisiau'r ‘Cwricwlwm newydd i Gymru’.

Pam dod yn awdur/adolygydd?

Ynghyd â chefnogi athrawon/darlithwyr a dysgwyr ledled Cymru, mae dod yn awdur/adolygydd gyda ni yn cynnig profiad gwerthfawr, gan gynnwys:

  • Gweithio ochr yn ochr ag addysgwyr angerddol
  • Datblygiad proffesiynol parhaus
  • Ennill incwm ychwanegol
  • Cyfleoedd gweithio hyblyg
  • Cynhyrchu deunyddiau a fydd yn gwella addysgu a dysgu

Arbenigwyr pwnc

Mae ein tîm yn chwilio am arbenigwyr pwnc yn y meysydd canlynol:

  • Ton 1 (ar gyfer cymwysterau sy'n cael eu haddysgu o fis Medi 2025): Celf a Dylunio, Busnes, Cyfrifiadureg, Drama, Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, Bwyd a Maeth, Ffrangeg, Daearyddiaeth, Almaeneg, Hanes, Mathemateg a Rhifedd, Cerddoriaeth, Astudiaethau Crefyddol, Sbaeneg, Y Gwyddorau a Chymraeg Iaith a Llenyddiaeth.
  • Ton 2 (ar gyfer cymwysterau sy'n cael eu haddysgu o fis Medi 2026): Amgylchedd Adeiledig, Dawns, Dylunio a Thechnoleg, Cyfryngau Digidol a Ffilm, Technoleg Ddigidol, Peirianneg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant, Addysg Gorfforol ac Astudiaethau Iechyd a Gofal.
  • Ton 3 (ar gyfer cymhwyster sy'n cael ei addysgu o fis Medi 2027): Iaith Arwyddion Prydain

Cwrdd â'r tîm

Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cyflwyno cyfres o gyfarfodydd rhithwir ar gyfer darpar ymgeiswyr er mwyn cwrdd â'r tîm a rhoi'r cyfle i ofyn cwestiynau. Bydd y rhain ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. I gofrestru, defnyddiwch y linciau canlynol:

> 20 Mawrth 2024 am 4pm (cyfarfod cyfrwng Saesneg)

> 21 Mawrth 2024 am 4pm (cyfarfod cyfrwng Cymraeg)

Ymgeisio

I weld y fanyleb rôl lawn ac i ymgeisio, cliciwch ymaPeidiwch â chwblhau'r ffurflen gais yn eich porwr gwe. Yn hytrach, lawrlwythwch y ddogfen, arbedwch hi yn lleol, a chyflwynwch eich cais drwy e-bost at adnoddau@cbac.co.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw: 29 Mawrth 2024

Noder mai asesiad sgrinio cychwynnol fydd hwn i sicrhau eich bod yn addas ar gyfer y rôl. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau tasg ysgrifenedig fer. 

Cwestiynau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r rôl, cysylltwch ag adnoddau@cbac.co.uk