CBAC yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant

CBAC yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant

Mae’r corff dyfarnu, CBAC, wedi comisiynu a chyhoeddi cyfieithiadau Cymraeg a Saesneg o destunau gosod newydd i gefnogi’r fanyleb UG Drama a Theatr o fis Medi 2024. Mae’r dramâu’n ymdrin ag amrywiaeth eang o themâu cynhwysol a chyfredol, yn cynnwys mewnfudo a threftadaeth/hunaniaeth, derbyn tueddiadau rhywiol, diboblogi cefn gwlad, rôl y fenyw mewn cymdeithas, ac ewthanasia. Mae’r gweithiau’n rhan o ymrwymiad parhaus CBAC i hyrwyddo cynhwysiant, amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn eu testunau.

Wrth sôn am y gwaith, dywed Mari Watkin, rheolwr a golygydd y project: “Fe welwch o’r rhestr isod fod CBAC wedi gwthio ffiniau gyda’r dramâu newydd a’r themâu cynhwysol a ddewiswyd ar gyfer y fanyleb UG Drama, gan roi cyfle i ddysgwyr i astudio testunau y byddant yn uniaethu â nhw. Dros y blynyddoedd, comisiynwyd dros ddeugain cyfieithiad Cymraeg o ddramâu clasurol a modern gan CBAC i gefnogi’r manylebau Drama – cyfraniad sylweddol i’r theatr Gymraeg. Mae CBAC hefyd yn parhau i sicrhau cyfieithiadau Saesneg o ddramâu Cymraeg ar gyfer y manylebau cyfrwng-Saesneg, gan rannu cyfoeth dramâu Cymraeg â’r byd.”

Gwahoddwyd rhai o brif awduron Cymru gan CBAC i drosi’r testunau, a chafwyd cyfieithiadau o’r radd flaenaf ganddynt: Manon Steffan Ros, Caryl Parry Jones, Ffion Dafis, Betsan Llwyd, a Nia Morais, Bardd Plant Cenedlaethol Cymru. Atgyfodwyd un o addasiadau clasurol y diweddar ddramodydd Wil Sam hefyd, yn ogystal â throsiad o un o ddramâu Bertolt Brecht gan yr Athro Mererid Hopwood.

 

Torri tir newydd

Ymhlith y testunau y mae cyfieithiad Nia Morais o ddrama lwyddiannus Winsome Pinnock, Leave Taking, sy’n torri tir newydd yn y theatr Gymraeg. Yn dilyn ymchwil helaeth yn holi arbenigwyr o fyd y theatr a chenhadon dros amrywiaeth ddiwylliannol, mae’r cyfieithiad arloesol hwn gan CBAC yn gyfuniad o’r Gymraeg a thafodiaith Garibïaidd er mwyn cadw at hanfod y ddrama a’i chymuned.

Mae drama Pinnock yn archwilio hunaniaeth ddeublyg mewnfudwyr du wedi iddynt ddod i Brydain ‘Fawr’. Mae’r stori’n dilyn dwy chwaer a’u mam wrth iddyn nhw frwydro i fyw mewn gwlad fodern, galed. Mae’r ddrama’n edrych ar faterion fel hunaniaeth a pherthyn, canlyniadau gadael eich mamwlad a chael eich dal rhwng dau ddiwylliant.

 

Comisiynu cyfieithydd diwylliannol-briodol

Roedd CBAC yn awyddus i gomisiynu awdur-gyfieithydd a oedd â chefndir diwylliannol priodol, un a fyddai'n parchu treftadaeth y ddrama. Yn dilyn ymchwil helaeth ym myd y theatr, penodwyd Nia Morais.

Mae’r cyfieithiad yn cynnwys testun gwreiddiol tafodiaith y Caribî ar gyfer rolau’r mewnfudwyr gwreiddiol, hŷn a chyfieithiad Cymraeg o sgwrs y genhedlaeth iau sydd wedi derbyn addysg Gymraeg, gyda’r cyfan yn cydblethu i roi deialog ddwyieithog sy’n cyfleu dau fyd y ddwy genhedlaeth, a’r undod a’r gwrthdaro diwylliannol rhyngddynt.

Wrth edrych yn ôl dros y profiad, dywed Nia Morais: “Roedd hi’n bleser gweithio ar ddrama sy’n dod â phrofiadau a chyfraniad mewnfudwyr du a’u perthynas â Phrydain ‘Fawr’ i’r amlwg. Mae ‘Leave Taking’/’Ymadael’ yn rhoi sylw i ran hollbwysig o’n hanes ni yng Nghymru a’r DU, felly rwy’n diolch i CBAC am y cyfle i awduro’r cyfieithiad Cymraeg.”

 

Holi arbenigwyr llenyddol-ddiwylliannol

Cyn bwrw iddi, bu Tîm Golygyddol CBAC yn ymchwilio’n helaeth i heriau ieithyddol a diwylliannol trosi’r ddrama mewn modd priodol gan gadw’n driw i’w hanfod. Y flaenoriaeth oedd sicrhau bod y cyfieithiad yn parchu’r deunydd crai gan gynnal ystyr a gwirionedd y gwreiddiol.

Ymhlith y rhai a holwyd oedd Arwel Gruffydd (cyn-Gyfarwyddwr Artistig, Theatr Genedlaethol Cymru) a Dafydd Llewelyn (Cynhyrchydd Teledu a Dramodydd toreithiog). Roedd y ddau yn gytûn, o safbwynt theatrig, y byddai hwn yn gyfieithiad arloesol. Holwyd Wayne Howard (Cyfrannwr S4C) a Jalisa Andrews (Actor) ynglŷn â phriodoldeb cyfieithu’r ddrama yn y lle cyntaf o ystyried ieithwedd y cymeriadau hŷn.

Ceisiwyd cyngor DARPL (Diversity and Anti-Racism Professional Learning) ar agweddau Seisnig/Prydeinig y ddrama wreiddiol i sicrhau bod y cyfieithiad yn ddiwylliannol briodol i Gymru. Trwy DARPL, sefydlwyd cysylltiad â Roma Taylor, un o drigolion Caerdydd o genhedlaeth llong y Windrush, a'i merch Suzanna Smart. Rhoddodd y ddwy bersbectif Cymreig ar y deunydd i’r tîm er mwyn sicrhau y byddai’n taro nodyn gyda chynulleidfa Gymraeg, ond gan gadw’n driw i’r gwreiddiol.

 

Rhestr lawn

Mae’r cyfieithiadau o’r dramâu isod bellach ar gael. Maent yn agor y drws i ddysgwyr ledled Cymru at ddeunydd a fydd yn cyfoethogi eu profiadau dysgu, ac yn hyrwyddo themâu amrywiaeth, cynhwysiant a chreu cymdeithas fwy agored:

  • Cân Serch, Manon Steffan Ros (Lovesong, Abi Morgan)
  • Tŷ Dol, Ffion Dafis (A Doll's House, Ibsen, addasiad gan Tanika Gupta)
  • Ymadael, Nia Morais (Leave Taking, Winsome Pinnock)
  • Yr Argae, Wil Sam (The Weir, Conor McPherson)
  • Unwaith, Caryl Parry Jones (Once, Enda Walsh)
  • Y Cylch Sialc, Mererid Hopwood (The Caucasian Chalk Circle, Bertolt Brecht)
  • Face to Face, Betsan Llwyd (cyfieithiad Saesneg o Wyneb yn Wyneb gan Meic Povey; cyhoeddwyd gan Atebol gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag adargraffiad newydd o’r ddrama wreiddiol)

Sylwer, bydd chwech o’r saith drama yn cael eu cyhoeddi AM DDIM ar Porth CBAC.

 

Am ragor o wybodaeth:
Jonathan Thomas
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand
Jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 5102