10th Moving Image Awards Celebrates Rising Stars in Filmmaking

10fed Gwobrau Delwedd Symudol yn Dathlu Sêr y Dyfodol mewn gwneud ffilmiau

Dathlwyd gwneuthurwyr ffilm ifanc rhyfeddol yn ein 10fed Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol yn y British Film Institute ar 26 Chwefror.

Daeth myfyrwyr, rhieni ac athrawon balch o bob rhan o'r DU ynghyd yn y digwyddiad mawreddog i ddathlu gwaith cyfarwyddwyr, sgriptwyr a chynhyrchwyr ifanc.

Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol, a lansiwyd yn 2014 mewn cydweithrediad â'r British Film Institute, yn cydnabod ac yn dathlu cynyrchiadau delwedd symudol gorau myfyrwyr sy'n ymgymryd â'n cymwysterau mewn Ffilm a'r Cyfryngau ar draws y DU.

Ymhlith y categorïau eleni roedd y Ffilm Fer Orau, Fideo Cerddoriaeth, Darn Teledu / Ffilm, Sgript Ffilm, Un i'w Wylio a Gwobr Rheithgor Myfyrwyr.

Enillodd Cherry Ellis, o Ysgol Ramadeg Steyning yng Ngorllewin Sussex, y teitl Gwobr Rheithgor Myfyrwyr enwog yng ngwobrau eleni am ei ffilm o'r enw 'The Deep Mind Experience'. Mae'r ffilm yn animeiddiad stop-ffrâm arbrofol, lle mae'r prif gymeriad yn mynd ar daith freuddwydiol seicedelig i’w isymwybod.

Roedd y beirniaid yn canmol Cherry am ei defnydd o ddelweddau, lliw a cherddoriaeth cyferbyniol i adlewyrchu bywyd diflas bob dydd o’i gymharu â byd lliwgar a hardd yr isymwybod.

Yn dilyn ei buddugoliaeth, dywedodd Cherry: “Mae ennill y wobr hon wir wedi fy synnu - ar ôl gwylio gwaith pawb arall, a oedd yn anhygoel! Ar ôl iddyn nhw gyhoeddi’r holl enillwyr doeddwn i ddim yn sylweddoli bod categori arall am fod, felly roeddwn wedi fy synnu ac mor hapus pan wnaethon nhw alw fy enw! Roeddwn i eisiau creu stori a oedd yn fath o ddihangfa ac eisiau pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng bywyd diflas bob dydd a’r bydoedd gwallgof eraill.”

Enillwyr:

Aeth mwy o wobrau i:

Ffilm Fer:

Ricardo Sokolowska-Pedrosa o Ysgol Ramadeg Dover i Fechgyn enillodd y wobr hon, am raglen ddogfen fer o'r enw 'Uninhabitable' am lety o ansawdd gwael a landlordiaid diegwyddor yn manteisio ar bobl fregus yn Dover.

Sylwadau'r beirniaid: "Rhagorol yn y tri chategori: cymhwysedd technegol, ffurf a genre, creadigrwydd, a dyfeisgarwch. Testun gwych a sgiliau adrodd stori rhagorol o fewn y genre."

Fideo Cerddoriaeth:

Callum Doddington o Ysgol St Bartholomew yn Berkshire am Erase/ Replace, fideo cerddoriaeth ar gyfer band 'Seize', sy'n cynnwys lluniau o aelodau'r band yn ogystal â saethiadau montage yn rhoi 'cliwiau' i'r darlun ehangach o'r hyn 'ddigwyddodd'.

Sylwadau'r beirniaid: “Fideo cerddoriaeth wedi’i ffilmio a’i olygu’n dda. Mae wedi'i strwythuro'n dda gyda chodau technegol a golygu rhagorol yn gyson. Mae’n greadigol iawn wrth gynrychioli’r band a'r naratif enigmatig. Defnydd ardderchog o fotiffau naratif. Defnyddiwyd amrywiaeth o dechnegau ffilmio. Cydwefuso a ffilmio ardderchog o’r perfformiad ei hun."

Sgript ffilm:

Nathan Mitchell o Goleg Strode, 'Egham for Motorway Pastures’, sgript ffilm am fodiwr (hitchhiker) sy'n dechrau gweld yr hyn sy'n fwy a mwy amhosibl, a hyn i gyd yn digwydd 'pan mae'r ŷd yn chwerthin a'r awyr yn hollti.'

Sylwadau'r Beirniaid: "Ffilm arswyd ardderchog – rheolaeth glir o amser. Delweddu da ac adrodd stori baralel. Gwych.”

Darn o Deledu/Ffilm:

Harver Miller o Ysgol St Bartholomew am AVA, dilyniant byr cyn y teitlau ac yn ystod y teitlau ar gyfer y sioe deledu 'AVA' sy'n cwmpasu hanfod gwewyr a diddordeb technolegol, ac yn tynnu ysbrydoliaeth o'r gyfres ‘Humans’, ‘Utopia’ a ‘Black Mirror’.

Sylwadau'r beirniaid: "Y dilyniant agoriadol wedi’i olygu i symud yn gyflym gan ennyn diddordeb y gynulleidfa sefydlu’r genre yn syth. Defnydd ardderchog o waith camera i sefydlu perygl sydd ar ddod ac i ragfynegi’r naratif argoelus. Mae confensiynau genre yn cael eu defnyddio dda ac yn ychwanegu at ddrama'r dilyniant."

Un i'w Wylio:

Creodd Ruby Hagan o Ysgol Upton Hall yn Birkenhead amLaika, animeiddiad arbrofol byr sy'n manylu ar fywyd un o'r creaduriaid cyntaf yn y gofod: "Laika the Space Dog".

Sylwadau'r beirniaid: "Animeiddiad dyfeisgar hardd yn seiliedig ar stori go iawn Laika, y ci gofod o’r Undeb Sofietaidda aeth o gwmpas y ddaear yn 1957. Mae'r ffilm yn cyfuno arddulliau animeiddio, yn cynnwys lluniadu a pheintio llinell syth i greu effaith syfrdanol."

Gellir gweld y fideos buddugol o'r Gwobrau Delwedd Symudol ar ein sianel YouTube.

Mae'r digwyddiad wedi ennyn cydnabyddiaeth gan addysgwyr ac athrawon astudiaethau ffilm ac astudio’r cyfryngau mewn gwahanol sefydliadau ar draws y DU, ynghyd â ffigurau amlwg yn y diwydiant ffilm. Ymhlith y siaradwyr gwadd eleni roedd y beirniad ffilm a chyn-lywydd yr UK Critics’ Circle Anna Smith, yr awdur a'r cyfarwyddwr Lorna Tucker, y golygydd sgriptiau prif ffilmiau Kate Leys a’r prif feirniad ffilm Metro Larushka Ivan-Zadeh.

Wrth sôn am y gwobrau eleni dywedodd Larushka Ivan-Zadeh, Prif Feirniad Ffilm Metro: “Mae’r seremoni wobrwyo heddiw wedi bod yn hollol anhygoel. Mae bob amser mor ysbrydoledig! Rwy'n credu mai'r her fwyaf sy'n wynebu pobl ifanc heddiw yw mentro i godi’n uwch na’u cyfyngiadau a'u credoau eu hunain ynghylch bod yn wneuthurwyr ffilm. Yr hyn rydyn ni wedi’i sylweddoli heddiw yw bod y diwydiant yn lle anhygoel. Mae digon o waith i bawb, mae'n rhaid i chi ddod o hyd i'ch llais a chredu ynoch chi'ch hun. Mae'n rhaid i chi gredu bod pobl wir eisiau clywed yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud a'i gynhyrchu. Ewch amdani!”

Dywedodd Jenny Stewart, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm: "Rydym yn falch iawn o ddathlu 10 mlynedd o'r Gwobrau Delwedd Symudol. Mae'r dalent a arddangoswyd eleni yn dyst i lwyddiant a thwf parhaus cymwysterau Astudiaethau Ffilm ac Astudio'r Cyfryngau CBAC ac Eduqas, a gwaith caled ac arloesedd gwneuthurwyr ffilm ifanc a'u hathrawon.

Llongyfarchiadau mawr i bob ymgeisydd ar eich cyflawniadau ym maes cynhyrchu ffilm a’r cyfryngau.”

Dywedodd Ian Morgan, ein Prif Weithredwr: "Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol bob amser yn uchafbwynt yn fy nghalendr. Ers degawd bellach, rydym wedi bod yn cydnabod y dalent eithriadol wrth wneud ffilmiau, ac nid oedd eleni'n wahanol. Dylai pob ymgeisydd fod yn hynod falch o'u cyflawniad, waeth beth fo'r canlyniad.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Delwedd Symudol, ewch i: www.gwobraudelweddsymudol.co.uk