- Cwestiynau Cyffredin
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith
- - Eich cefnogi gyda'n Cymwysterau Ton 3
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith
- - Eich cefnogi gyda'n Cymwysterau Ton 3
- Llywio cymwysterau gyda phartneriaethau yn y diwydiant
Rydym wrthi'n datblygu pecyn cynhwysfawr i gefnogi athrawon a dysgwyr gyda'n hamrywiaeth newydd o gymwysterau, i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027.
Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol rhad ac am ddim wedi'u harwain gan arbenigwyr, a chyfres ddiguro o adnoddau digidol o ansawdd uchel.
Dysgu Proffesiynol
Bydd CBAC yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol rhad ac am ddim ar gyfer ein cymwysterau TAAU, Sylfaen Cyffredinol, Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith, Project Personol a Chyfres Sgiliau.
Mae'r cyfleoedd hyn wedi'u datblygu mewn ymateb i adborth gan ganolfannau ledled Cymru, a byddan nhw'n cynnwys deunyddiau ar alw y gellir eu cyrchu ar unrhyw adeg, yn ogystal â fforymau pwnc byw ac ar-lein bob tymor.
Adnoddau Digidol
Mae ein Tîm Adnoddau Digidol wrthi'n datblygu amrywiaeth o adnoddau ar-lein sy'n rhad ac am ddim ac yn ddwyieithog i gefnogi ein cymwysterau newydd.
Bydd yr adnoddau newydd hyn yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2026, a bydd y gyfres lawn ar gael erbyn haf 2027.
Bydd modd golygu'r holl adnoddau addysgu, a fydd yn galluogi defnyddwyr i'w haddasu i weddu orau i amrywiaeth eang o ddulliau addysgu. Byddant yn cynnwys:
TAAU
-
Unedau Dysgu Cyfunol
-
Trefnwyr Gwybodaeth
-
Cynlluniau gwaith a awgrymir
Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol a Chymwysterau Cysylltiedig â Gwaith
-
Gweithgareddau o flaen dosbarth
-
Nodiadau i Athrawon
-
Taflenni gwaith
-
Cynlluniau gwaith a awgrymir
Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
-
Trefnwyr sgiliau
-
Cyflwyniadau PowerPoint
-
Dogfennau canllawiau