Neidio i'r prif gynnwys
Rydym yn defnyddio cwcis i wella profiad y defnyddiwr, a dadansoddi traffig gwefan. Am y rhesymau hyn, efallai y byddwn yn rhannu eich data defnydd gwefan gyda'n partneriaid dadansoddeg. Trwy glicio “Derbyn Cwcis,” rydych yn cydsynio i storio ar eich dyfais yr holl dechnolegau a ddisgrifir yn ein Polisi Cwcis. Darllenwch ein Telerau ac Amodau a'n Polisi Preifatrwydd i gael manylion llawn.
Derbyn Cwcis
Analluogi cwcis
Dewislen
English
Amdanom Ni
Cysylltiadau Defnyddiol
Penodedigion
Porth
search
home
search
navigate_next
Cymwysterau
navigate_next
Dysgu Proffesiynol
navigate_next
Gweinyddu
navigate_next
Cefnogaeth i Fyfyrwyr
Dysgu Proffesiynol
Hafan
chevron_right
Amdanom Ni
chevron_right
Bwrdd CBAC
Amdanom Ni
{"grandParentLink":null,"parentLink":{"linkText":"Amdanom Ni","url":"/cy/home/amdanom-ni/"},"currentLink":{"linkText":"Bwrdd CBAC","url":"/cy/home/amdanom-ni/bwrdd-cbac/"},"childrenLinks":[{"linkText":"Adolygiad Blynyddol","url":"/cy/home/amdanom-ni/adolygiad-blynyddol/"},{"linkText":"Yma i chi","url":"/cy/home/amdanom-ni/yma-i-chi/"},{"linkText":"Datblygu cymwysterau","url":"/cy/home/amdanom-ni/datblygu-cymwysterau/"},{"linkText":"Ein cynhyrchion a'n gwasanaethau","url":"/cy/home/amdanom-ni/ein-cynhyrchion-an-gwasanaethau/"},{"linkText":"Cynllun Bwrsari Gareth Pierce","url":"/cy/home/amdanom-ni/cynllun-bwrsari-gareth-pierce/"},{"linkText":"Tîm Arwain Gweithredol","url":"/cy/home/amdanom-ni/tim-arwain-gweithredol/"},{"linkText":"Bwrdd CBAC","url":"/cy/home/amdanom-ni/bwrdd-cbac/"},{"linkText":"Polisïau","url":"/cy/home/amdanom-ni/polisiau/"},{"linkText":"Cysylltiadau Defnyddiol","url":"/cy/home/amdanom-ni/cysylltiadau-defnyddiol/"},{"linkText":"Gweithio Gyda Ni","url":"/cy/home/amdanom-ni/gweithio-gyda-ni/"}],"lowerChildrenLinks":[]}
Llywio
Adolygiad Blynyddol
Yma i chi
Datblygu cymwysterau
Ein cynhyrchion a'n gwasanaethau
Cynllun Bwrsari Gareth Pierce
Tîm Arwain Gweithredol
- Bwrdd CBAC
Polisïau
Cysylltiadau Defnyddiol
Gweithio Gyda Ni
Bwrdd CBAC
{"accordionHeading":"Bwrdd CBAC","accordionItems":[{"accordionTitle":"Joanna Moonan","accordionTitleSecondary":"Darllenwch am Joanna Moonan","accordionImage":"/media/0fqms1si/joanna_moonan-bw.png?rxy=0.553419151557887,0.3361169194618126&width=70&height=70&v=1dafe27165b1ae0","accordionContent":"
Cadeirydd
\n
Penodwyd Joanna Moonan yn Gyfarwyddwr Anweithredol / Ymddiriedolwr annibynnol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr WJEC CBAC Limited ym mis Ebrill 2018. Daeth y Gadeirydd y Bwrdd ym mis Mawrth 2020, gan gael ei phenodi hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Enwebiadau ar yr un pryd. Mae hi'n aelod o'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth hefyd, ar ôl camu i lawr fel Cadeirydd ym mis Mawrth 2020.
\n
Mae Joanna yn aelod cymwys o CIPD ac mae ganddi radd meistr mewn Rheoli a Datblygu Adnoddau Dynol strategol; mae hi hefyd yn Gymrawd Siartredig CMI. Ar hyn o bryd mae Joanna yn Ddirprwy Gyfarwyddwr gyda'r Institute for Apprenticeships and Technical Education, ac yn goruchwylio datblygiad cymwysterau dan arweiniad cyflogwyr. Cyn hynny, bu Joanna mewn swyddi Cyfarwyddwr gyda chorff hyfforddi masnachol a darparwr hyfforddiant prentisiaeth. Mae ganddi brofiad helaeth hefyd o weithio gydag AQA ar lefel uwch.
\n
Newid drwy drawsnewid sy'n mynd â'i bryd hi, ac iddi hi pobl sy'n ganolog i unrhyw newid llwyddiannus. Bu'n gweithio erioed yn y sectorau dysgu ac addysg, ac oherwydd hynny mae Joanna'n credu'n gryf mai cymwysterau yw dechrau'r daith tuag at unrhyw gyfleoedd a gyrfaoedd.
"},{"accordionTitle":"Cllr Edward Thomas","accordionTitleSecondary":"Darllenwch am Cllr Edward Thomas","accordionImage":"/media/s4wbeyu5/edward-thomas.png?width=70&height=70&v=1dafe2716844dc0","accordionContent":"
Penodwyd y Cynghorydd Edward Thomas yn Gyfarwyddwr Anweithredol/Ymddiriedolwr yn cynrychioli'r Awdurdodau Unedol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr WJEC CBAC Limited ym mis Gorffennaf 2016. Mae Edward hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth ar ôl ei benodi i'r rôl honno ym mis Ebrill 2020.
\n
Cynghorydd annibynnol yw'r Cynghorydd Thomas, yn cynrychioli Llandeilo a Dyffryn Cennen yn Sir Gâr. Mae bellach yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg yn Sir Gâr ac yn aelod o'r panel Diogelu.
\n
Cyn ei ethol yn 2012, roedd y Cynghorydd Thomas yn gweithio i fanc mawr tan ei ymddeoliad yn 2010. Mae wedi bod yn llywodraethwr ysgol ers 2010 ac yn Gadeirydd ar Lywodraethwyr yr ysgol gynradd leol rhwng 2010 a 2018. Bellach mae'n Gadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol uwchradd leol sef Ysgol Bro Dinefwr.
\n
Mae'r Cynghorydd Thomas yn arbennig o falch o'r ffaith ei fod wedi ennill gradd BA Hanes (Anrhydedd) trwy Adran Addysg Barhaus Oedolion Prifysgol Abertawe, ar ôl gweithio'n amser llawn am 40 mlynedd ac er gwaetha'r ffaith ei fod wedi gorfod gadael yr ysgol ar ôl ei lefelau 'O' oherwydd marwolaeth gynnar ei dad a'r angen am incwm yng nghartref y teulu. Mae'n frwdfrydig y dylai pawb gael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn.
"},{"accordionTitle":"Jessica Leigh Jones","accordionTitleSecondary":"Darllenwch am Jessica Leigh Jones","accordionImage":"/media/lztjbwxp/jljones-lisbon.jpg?width=70&height=70&v=1dafe2716c35290","accordionContent":"
Is-gadeirydd
\n
Penodwyd Jessica Leigh Jones yn Gyfarwyddwr Anweithredol/Ymddiriedolwr annibynnol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr WJEC CBAC Limited yn 2018. Mae Jessica hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ar ôl cael ei phenodi'n aelod o'r pwyllgor hwnnw ym mis Mawrth 2020. Fe’i penodwyd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Enwebiadau ym mis Ebrill 2020.
\n
Jessica yw Cyd-Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol iungo solutions, y cwmni newydd sydd â gweledigaeth i lunio brand rhyngwladol ar gyfer prentisiaethau. Hi yw Cadeirydd Gweithredol Cynllun Addysg Peirianneg Cymru ac fe'i penodwyd yn Athro Gwadd Cyflogadwyedd a Sgiliau Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant drwy'r Academi Frenhinol Peirianneg.
\n
Mae Jessica yn Swyddog Proffesiynol Ansawdd Siartredig ac yn Aelod Cyswllt o'r CIPD. Derbyniodd Ryddfraint Dinas Llundain a chafodd ei chynnwys ar restr Forbes 30 under 30 Europe 2018 a rhestr Who's Who 2020 o bobl ddylanwadol ym mywyd Prydain.
"},{"accordionTitle":"Cllr Alan Lockyer","accordionTitleSecondary":"Darllenwch am Cllr Alan Lockyer","accordionImage":"/media/ibxawe4y/alan-lockyer.png?width=70&height=70&v=1dafe2716e0ecb0","accordionContent":"
Penodwyd y Cynghorydd Alan Lockyer yn Gyfarwyddwr Anweithredol/Ymddiriedolwr yn cynrychioli'r Awdurdodau Unedol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr WJEC CBAC Limited ym mis Gorffennaf 2016. Cadeiriodd Alan y Pwyllgor Archwilio am dros 3 blynedd, ac mae’n parhau’n aelod o’r Pwyllgor hwnnw ar ôl camu o’r neilltu fel Cadeirydd ym mis Rhagfyr 2023.
\n
Ar hyn o bryd, y Cynghorydd Lockyer yw Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Castell-Nedd Port Talbot ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant. Fel Cynghorydd Sir Castell-Nedd Port Talbot, mae'r Cynghorydd Lockyer wedi cadeirio'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r pwyllgor Apwyntiadau Arbennig.
\n
Mae'r Cynghorydd Lockyer wedi bod yn ymwneud ag addysgu ers 1974 ac wedi gweithio yn llawn amser i Orllewin Morgannwg ers 1977 yn addysgu Offerynnau Pres ac yn hyfforddi Cerddorfa a Chôr ieuenctid. Mae hefyd wedi bod yn gyfansoddwr preswyl ar gyfer Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg ac yn gyfansoddwr ar gyfer ysgolion Cynradd ac Uwchradd yng Ngorllewin Morgannwg.
\n
Tan ei ymddeoliad roedd Alan yn darlithio'n amser llawn yng Ngholeg Castell-nedd ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bu'n gyfrifol am ddatblygu ac ysgrifennu'r cyrsiau TGAU a Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Cerddoriaeth Boblogaidd a dyluniodd a gosododd y stiwdios recordio fel Pennaeth Technoleg Cerddoriaeth. Mae hefyd wedi bod yn arweinydd cyrsiau Technoleg Cerddoriaeth Safon Uwch a Diploma Cenedlaethol y corff dyfarnu Edexcel.
\n
Mae Alan wedi bod yn gweithio fel Arholwr Technoleg Cerddoriaeth Safon Uwch i Edexcel yn ogystal â darlithio ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ac ar sawl cwrs Gradd y Cyfryngau a Diploma Cenedlaethol mewn Sain.
"},{"accordionTitle":"Cemlyn William","accordionTitleSecondary":"Darllenwch am Cemlyn William","accordionImage":"/media/ahietwdo/cemlyn-williams.png?width=70&height=70&v=1dafe2717058bb0","accordionContent":"
Yn wreiddiol, penodwyd Cemlyn Williams yn Gyfarwyddwr Anweithredol/Ymddiriedolwr yn cynrychioli'r Awdurdodau Unedol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr WJEC CBAC Limited ym mis Gorffennaf 2019. Roedd hyn yn ystod y cyfnod pan oedd yn cynrychioli Ward Cadnant, Caernarfon ar Gyngor Gwynedd. Safodd Cemlyn i lawr o’r Cyngor ym mis Mai 2022, a chafodd ei ailbenodi’n Gyfarwyddwr Anweithredol / Ymddiriedolwr annibynnol ym mis Gorffennaf 2022.
\n
Mae Cemlyn hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio, ar ôl ei benodi ym mis Tachwedd 2019. Fe’i penodwyd yn aelod o’r Pwyllgor Enwebiadau hefyd ym mis Ebrill 2023.
\n
Bu Cemlyn yn Was Sifil am 35 mlynedd gyda'r Adran Nawdd Cymdeithasol a'i olynydd yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gweithiodd mewn Swyddfeydd Lleol ledled gogledd Cymru. Wedyn, bu'n gyfrifol am ddatblygu a sicrhau cydymffurfiaeth â Chynllun Iaith Gymraeg yr Adran. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn Swyddog Gwybodaeth Rhanbarthol dros Gymru i'r Adran Nawdd Cymdeithasol. Gweithiodd mewn sawl Adran Polisi yn Llundain a Leeds. Yna, gweithiodd fel Rheolwr Project i'r Adran Gwaith a Phensiynau yn Poulton-Le-Fylde, Blackpool cyn ymddeol yn gynnar.
\n
Ar ôl ymddeol, daeth yn Brif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Gwynedd ac Ynys Môn, yn aelod o Fwrdd Rheoli Cyngor ar Bopeth Cymru a sawl Pwyllgor Cyngor ar Bopeth Cenedlaethol. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, daeth yn Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru gan weithio'n agos ag Ymddiriedolaeth Ysbytai Gogledd Cymru.
"},{"accordionTitle":"Richard Pendlebury","accordionTitleSecondary":"Darllenwch am Richard Pendlebury","accordionImage":"/media/htzny4a5/richard-pendlebury.png?width=70&height=70&v=1dafe2717271d70","accordionContent":"
Penodwyd Richard Pendlebury yn Gyfarwyddwr Anweithredol / Ymddiriedolwr annibynnol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr WJEC CBAC Limited ym mis Hydref 2018. Mae Richard hefyd yn aelod o'r Pwyllgorau Cydnabyddiaeth ac Archwilio ar ôl cael ei benodi i'r ddau bwyllgor ers mis Mawrth 2019.
\n
Richard yw Cyfarwyddwr Newid Interim Together Money a'i gyfrifoldeb ef yw creu ac adeiladu capasiti timau i gyflawni newid sylweddol mewn busnes a chanlyniadau gwell i gwsmeriaid. Mae Richard yn arweinydd strategol sydd wedi profi llwyddiant yn ysgogi newid arwyddocaol, ailstrwythuro eang a chynyddu perfformiad ar draws cyrff masnachol ac nid-er-elw.
\n
Yn flaenorol, roedd Richard yn Bennaeth Strategaeth a Thrawsnewid gyda'r Co-operative Bank a'i gyfrifoldeb ef oedd gweithredu agenda newid mawr a chymhleth sy'n cwmpasu trawsnewid busnes, TG, risg, rheoleiddio a chyllid. Mae Richard yn Rheolwr Rhaglenni a Phrojectau cymwys ac yn flaenorol bu'n gyfrifol am lywodraethiant corfforaethol y Banc, yn ystod ei gyfnod fel Rheolwr Busnes yn swyddfa Prif Swyddog Gweithredol y Co-operative Bank.
\n
Cyn hyn, mae Richard wedi dal nifer o rolau uwch arweinyddiaeth gydag AQA Education Limited, gan arwain trefn sylweddol o drawsnewid busnes ar draws y corff hwnnw. Bu'n gyfrifol hefyd am rolau gweithredol gan gynnwys paratoi arholwyr a marcio, canlyniadau a gwasanaethau ar ôl y canlyniadau yn ogystal â pherchnogi gwasanaethau cefnogi amlsianel a gynigir gan AQA.
\n
Daw Richard â digonedd o brofiad i'r Bwrdd o'i gyfnod yn gweithio yn y Gwasanaethau Ariannol, yn ogystal â 6 mlynedd o brofiad gyda Chyrff Dyfarnu yng Nghymru a Lloegr.
"},{"accordionTitle":"Dr Mandy James","accordionTitleSecondary":"Darllenwch am Dr Mandy James","accordionImage":"/media/0fspxheb/dr-mandy-james.png?width=70&height=70&v=1dafe2717479dc0","accordionContent":"
Penodwyd Dr Mandy James yn Gyfarwyddwr Anweithredol / Ymddiriedolwr annibynnol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr WJEC CBAC Limited ym mis Hydref 2018. Mae Mandy wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio ers mis Ebrill 2020.
\n
Mae gan Mandy brofiad o 25 mlynedd a mwy mewn amrywiol rolau arweinyddiaeth a rheolaeth yn y byd addysg a'r byd busnes yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys arwain City & Guilds fel Rheolwr Cenedlaethol Cymru ac yna fel Uwch Reolwr Cynllunio Strategaeth a Pherthnasoedd Strategol â'r cyfrifoldeb am arwain y tîm a rheoli'r busnes yng Nghymru, twf masnachol, strategaeth a chynllunio busnes yng Nghymru a Lloegr, perthnasoedd a phartneriaethau rhanddeiliaid, strategaeth farchnata, darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru. Mae profiad Mandy mewn addysg uwch ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru yn eang iawn a bu'n aelod o sawl Grŵp Llywio Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pholisi addysg alwedigaethol, yn arweinydd ar Bwyllgor Cynghori Cenedlaethol City & Guilds a Dirprwy Gadeirydd Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu yng Nghymru.
\n
Hefyd, mae Mandy wedi bod yn Gymrawd Ymchwil i Brifysgol De Cymru yn gwerthuso strategaeth ddiwylliannol gyntaf Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru. Llwyddodd hefyd i ennill PhD yn 2015 gan arbenigo ar y defnydd o dystiolaeth a gwerthuso ar gyfer llunio polisi diwylliannol yng Nghymru ar ôl 10 mlynedd o waith ymchwil. Gweithiodd Mandy hefyd fel Ymgynghorydd Ymchwil i Gyngor Sgiliau y Sector Sgiliau Creadigol a Diwylliannol ac fel Ymgynghorydd Addysg i NCfE.
\n
Ar ôl dechrau ei gyrfa fel Athrawes Gynradd, mae Mandy wedi gweithio ar gytundebau hefyd fel Rheolwr Datblygu (Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg) i'r Ganolfan Addysg Feddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, ac fel Ymchwilydd yn datblygu ac ysgrifennu modiwl addysgu a dysgu newydd ar 'Dreftadaeth, Twristiaeth a'r Iaith Gymraeg) i Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd.
"},{"accordionTitle":"Kevin O'Leary","accordionTitleSecondary":"Darllenwch am Kevin O'Leary","accordionImage":"/media/alan14gc/kevin-o-leary-b-w-2.jpg?width=70&height=70&v=1dafe27177145d0","accordionContent":"
Penodwyd Kevin O'Leary yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr WJEC CBAC Limited ym mis Mehefin 2022. Mae Kevin hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio ac yn aelod o'r Pwyllgor Buddsoddi.
\n
Daw Kevin yn wreiddiol o ogledd Cymru a chymhwysodd fel cyfrifydd drwy astudio'n rhan amser yng ngholeg Polytechneg Lerpwl. Ar yr un pryd, roedd yn gweithio i Gyngor Wrecsam. Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd gwaith yn ne ddwyrain Cymru. Mae ymdrin â newid sefydliadol ar raddfa fawr a'r cyfleoedd sy'n gallu dod yn sgil hynny wedi bod yn un o nodweddion allweddol ei yrfa. Erbyn hyn mae Kevin yn byw ger Caerfyrddin ac yn brysur iawn yng ngweithgareddau ei bentref lleol. Mae'n Ymddiriedolwr ac yn Is-gadeirydd Neuadd y Pentref, yn trefnu clybiau sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, yn codi arian ac yn rhedeg.
\n

"},{"accordionTitle":"Martyn Groucutt","accordionTitleSecondary":"Darllenwch am Martyn Groucutt","accordionImage":"/media/bfmj3rb4/martyn-groucutt.jpg?rxy=0.54804619956016409,0.42908752942580963&width=70&height=70&v=1dafe27195ebdf0","accordionContent":"
Penodwyd Martyn Groucutt yn Gyfarwyddwr Anweithredol / Ymddiredolwr yn cynrychioli'r Awdurdodau Unedol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr WJEC CBAC Limited ym mis Awst 2023. Mae Martyn hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio.
\n
Cynghorydd ar Gyngor Sir Mynwy yw Martyn ac ef yw'r Aelod o'r Cabinet dros Addysg ar hyn o bryd. Yn flaenorol, bu'n brifathro ac yn ymgynghorydd addysg. Cyn hyn, bu'n gynrychiolydd dros Sir Fynwy yng nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol CBAC.
\n
Ymhlith ei ddiddordebau mae cerddoriaeth ac mae'n mynd yn rheolaidd i'r Black Mountains Jazz Club yng Nghanolfan y Celfyddydau Melville yn y dref, a gefnogir gan Gyngor y Dref.