I ddathlu ein llwyddiannau yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyhoeddi ein Hadolygiad Blynyddol. Mae'r cyhoeddiad yn tynnu sylw at y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan CBAC, mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid ar draws y gymuned addysg, i sicrhau bod dysgwyr Cymru yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial.
Mae ein Hadolygiad Blynyddol 2022/23 yn dangos ein gallu i addasu i amgylchiadau sy'n newid, tra'n anrhydeddu ein traddodiad o ddarparu cefnogaeth ac arweiniad o ansawdd i ysgolion a cholegau ledled Cymru.
Darllen ein Hadolygiad Blynyddol 2022/23
Adolygiadau Blynyddol Blaenorol
Byddem yn ddiolchgar iawn o'ch adborth, naill ai drwy e-bost neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #CBACAdolygiadBlynyddol
Cofrestrwch ar gyfer ein bwletinau e-bost i dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gwaith a dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.