Cymraeg Iaith Gyntaf Llwybrau Mynediad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth sy'n gysylltiedig a'r fanyleb Cymraeg Iaith Gyntaf Llwybrau Mynediad sydd ar gael yng Nghymru.
Deunyddiau Cwrs
Mae'r adnoddau i gyd i'w gweld ar y dudalen Dogfennau Cysylltiedig.
Gwefan Ddiogel CBAC
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw.
Am y Cymhwyster Hwn
Mae Llwybrau Mynediad Cymraeg (Iaith Gyntaf) yn dod i ben ac yn cael ei ddyfarnu am y tro olaf yn haf 2020. Cyfeiriwch at gylchlythyr 089 (Mawrth 2019) am ragor o fanylion.
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i gyd-fynd â Sgiliau Hanfodol Cymru. Mae pump uned sy'n werth tri chredyd yr un a bydd ymgeiswyr yn gallu ennill Dyfarniad neu Dystysgrif Mynediad 2 neu Fynediad 3. Argymhellir bod ymgeiswyr Mynediad 1 yn dilyn cwrs Sgiliau Hanfodol Cymru Mynediad - Cyfathrebu.
Gweler yr unedau isod:
- Trafod Profiadau a Theimladau ar Lafar
- Trawsieithu i'r Gymraeg
- Ymateb ar Lafar i Raglen Deledu neu Ffilm Gymraeg
- Ymateb i Ddeunydd Darllen Llenyddol Cymraeg (Rhyddiaith)
- Ysgrifennu Stori
Asesir yr unedau hyn yn y canolfannau ac fe'u safonir yn allanol.
Cyfres Ionawr
21 Hydref | Terfyn amser cofrestru |
11 Tachwedd | Terfyn amser cywiriadau |
12 Rhagfyr | Terfyn amser cyflwyno samplau |
Cyfres Mehefin
21 Chwefror | Terfyn amser cofrestru |
18 Mawrth | Terfyn amser cywiriadau |
4 Mai | Terfyn amser cyflwyno samplau |
Samplau
Dylai samplau o waith cynnwys:
Rhaid anfon samplau o waith at:
Nia Morgan
Parth Cymraeg
CBAC
245 Rhodfa'r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YX
IAMIS
O fis Ionawr 2015, gofynnir i ganolfannau gyflwyno'u data ymgeiswyr Llwybrau Mynediad gan ddefnyddio System Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol CBAC (IAMIS). Bydd IAMIS yn agored i chi wirio data ymgeiswyr, mewnbynnu'r canlyniad a chynhyrchu eich sampl safoni. NI fydd canolfannau'n derbyn ffurflenni EP1. Gallwch weld manylion y safonwr ar frig y dudalen yn IAMIS, unwaith y byddwch wedi clicio i gynhyrchu'r sampl.
Mae'r canllaw defnyddwyr IAMIS Llwybrau Mynediad i'w weld yma.
Cyrsiau DPP ar-lein - Cymraeg Iaith Gyntaf Llwybrau Mynediad
Cliciwch ar y ddelwedd isod i weld recordiad o'n cwrs ar-lein DPP Llwybrau Mynediad Cymraeg iaith gyntaf.
I wylio'r hyfforddiant bydd angen:
- Porwr diweddar, fel Interner Explorer 8
- Adobe Connect ynghyd ag ategyn Adobe wedi'i osod.
- I lwytho'r feddalwedd cliciwch ar y ddolen yma
Os nad oes hawl gennych lwytho'r feddalwedd, cysyllwch a'ch technegydd TGCH am gymorth.
Cysylltwch â ni
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
Manylion Cyswllt Ychwanegol
Cymwysterau Perthnasol
Upcoming CPD Events
Adroddiadau Uwch Arholwyr
Mae adroddiadau Uwch Arholwyr Haf 2019 yn rhoi adborth ar gyfer y cymwysterau hen a newydd o'r gyfres arholiadau'r Haf hwn. Mae'r adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a sylwadau ar y gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer y gyfres hon, gall hefyd gynorthwyo athrawon wrth iddynt baratoi eu myfyrwyr ar gyfer y gyfres nesaf o arholiadau.