Project Estynedig Lefel 3
'Mae’r CPE, sy’n werth hanner lefel A, yn gynyddol boblogaidd gyda phrifysgolion gorau. Mae Bryste, Manceinion, Southamption a Leeds ymhlith nifer cynyddol sy’n barod i ostwng eu gofynion gradd Safon Uwch os yw ymgeiswyr yn cael A neu A* am eu CPE.’- The Times, 3 Ionawr 2019
Mae ein Cymhwyster Project Estynedig Lefel 3 ar gael i ddysgwyr yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, canolfannau Lluoedd Prydain Dramor a chanolfannau Prydain Dramor fel cymhwyster annibynnol. Cymhwyster un uned yw'r Project Estynedig sy'n cael ei asesu'n fewnol a'i safoni'n allanol. Mae gan ganolfannau yr opsiwn o ddefnyddio'r llwyfan e-gyflwyno ar-lein, sy'n rhad ac am ddim ar gyfer y Project Estynedig.
Gall y Prosiect Estynedig ei ddatblygu o un neu ragor o raglenni astudio y dysgwr neu o bwnc o ddiddordeb personol. Gall fod yn seiliedig ar amrywiaeth o fformatau a chyd-destunau, e.e. traethawd hir, astudiaeth maes, arteffact neu berfformiad. Mae dysgwyr yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses gan oruchwyliwr a rhaglen addysgu a dysgu.
Mae'r cymhwyster yn cynnig opsiynau amserlennu hyblyg i ganolfannau. Bydd gan ddysgwyr fwy o ddewis dros eu hastudiaethau nag erioed a chyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol, sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr mewn addysg uwch ac ym myd gwaith. Mae natur hyblyg y cymhwyster hwn hefyd yn annog gweithgareddau trawsgwricwlaidd gan roi cyfleoedd i ryngweithio rhwng cyfadrannau ac adrannau o fewn y canolfannau.
Bydd y cymhwyster Project Estynedig ar gael ar gyfer cyfres mis Mehefin yn unig ar gyfer pob canolfan.
E-Gyflwyno
Mae gwaith ymgeiswyr mewn unedau/cydrannau a asesir neu gymedrolir yn fewnol yn cael ei e-gyflwyno i CBAC ar gyfer y pwnc hwn. Bwriad CBAC o 2020 ymlaen yw i bob cyflwyniad Project Estynedig fod yn electroneg. Bydd mwy o wybodaeth ar gael maes o law. Am ragor o wybodaeth ac arweiniad am y broses ewch i'r dudalen we e-gyflwyno.
Pam dewis astudio'r Project Estynedig gyda CBAC?
Dogfennau Allweddol
Gweler Dogfennau Perthnasol hefyd ar gyfer adnoddau pellach.
Cysylltwch â Ni
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
Dolenni Defnyddiol
Manylion Cyswllt Ychwanegol
Upcoming CPD Events
Adroddiadau Uwch Arholwyr
Mae adroddiadau Uwch Arholwyr 2018 yn rhoi adborth ar gyfer y cymwysterau hen a newydd o'r gyfres arholiadau'r hwn. Mae'r adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a sylwadau ar y gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer y gyfres hon, gall hefyd gynorthwyo athrawon wrth iddynt baratoi eu myfyrwyr ar gyfer y gyfres nesaf o arholiadau.