Dyfarniad Lefel 1 / 2 Peirianneg
Tanysgrifiwch i gael gwybod am newyddion a datblygiadau yn y pwnc yma
Mae'r Dyfarniad Lefel 1 / 2 mewn Peirianneg yn ddewis sy'n fwy ymarferol ei naws na'r TGAU. Cymhwyster yw hwn sy'n seiliedig ar y byd peirianneg a chanddo'r nod o gyflwyno myfyrwyr i amrywiol gydrannau'n maes. Mae'r cymhwyster yn cynnig cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth trwy gyfrwng tasgau sy'n cael eu gosod mewn cyd-destunau realistig cysylltiedig â gwaith.
Deunyddiau Cwrs
Mae'r adnoddau i gyd i'w gweld ar y dudalen Dogfennau Cysylltiedig.
Adnoddau Allweddol
Datganiad o Ddiben
Datganiad o Ddiben Dyfarniad Lefel 1 / 2 mewn Peirianneg
Dyddiadau Allweddol
Dylai canolfannau wirio holl ddyddiadau allweddol CBAC am fanylion safoni unedau ac arholiadau allanol.
Manylion y Cymhwyster
Mae'r Dyfarniad Lefel 1 / 2 mewn Peirianneg (IVQ) wedi'i rannu'n unedau ac yn cael ei asesu'n fewnol ac yn allanol.
Mae'r Dyfarniad yn cynnwys tair uned orfodol. Rhaid cwblhau'r gwaith a asesir yn fewnol yn y ganolfan ei hun gan fabwysiadu egwyddorion asesu dan reolaeth wrth wneud hynny.
Uned | Oriau Dysgu dan Arweiniad | Asesu |
Uned 1 (9791): Dylunio Peirianneg | 30 ODA | Asesu mewnol a safoni allanol |
Uned 2 (9792): Cynhyrchu Cynhyrchion Peirianneg | 60 ODA | Asesu mewnol a safoni allanol |
Uned 3 (9793): Datrys Problemau Peirianneg | 30 ODA | Asesu allanol |
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Manylion Cyswllt Ychwanegol
Upcoming CPD Events
Adroddiadau Uwch Arholwyr
Mae adroddiadau Uwch Arholwyr Haf 2018 yn rhoi adborth ar gyfer y cymwysterau hen a newydd o'r gyfres arholiadau'r Haf hwn. Mae'r adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a sylwadau ar y gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer y gyfres hon, gall hefyd gynorthwyo athrawon wrth iddynt baratoi eu myfyrwyr ar gyfer y gyfres nesaf o arholiadau.