- Lefel 1/2 Dyfarniadau Galwedigaethol newydd i'w haddysgu o fis Medi 2022
- - Lefel 3 Cymwysterau Galwedigaethol newydd i'w haddysgu o fis Medi 2023
Rydym yn datblygu cymwysterau galwedigaethol Lefel 3 newydd ar gyfer canolfannau a dysgwyr yng Nghymru.
Wedi'u hanelu at bobl ifanc 16-18 mlwydd oed sydd am barhau â'u haddysg drwy ddysgu cymhwysol a gydag adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel yn eu cefnogi, bydd y canlynol yn wir am y cymwysterau newydd hyn:
- byddan nhw'n cael eu cyflwyno ochr yn ochr â chymwysterau lefel 3 eraill yn rhan o raglen astudio dwy flynedd
- byddan nhw'n cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o faes pwnc neu sector penodol tra’u bod hefyd yn caffael ystod o sgiliau ymarferol a thechnegol lle y bo'n briodol.
- byddan nhw'n cefnogi dysgwyr i fynd i addysg uwch drwy gael eu cydnabod gan brifysgolion ochr yn ochr â chymwysterau Lefel 3 eraill megis Safon Uwch
- byddan nhw'n galluogi cynllunio a chyflwyno cwricwlwm yn effeithiol drwy gyfuniad o unedau gorfodol a dewisol (lle y bo'n briodol)
- byddan nhw'n cynnig dulliau asesu arloesol, ymarferol a chyfredol.
I ddechrau, rydym yn datblygu cymwysterau Busnes, Peirianneg, Chwaraeon, Thwristiaeth a Gofal Cymdeithasol; bydd y rhain ar gael i ganolfannau eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2023.
Wrth sôn am y datblygiad, dywedodd Sarah Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Cymwysterau Galwedigaethol "Fel corff dyfarnu mwyaf Cymru, rydym yn parhau i ehangu ar y cymwysterau rydym yn eu cynnig i sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol o ansawdd uchel o fewn cyrraedd dysgwyr yng Nghymru sy'n bodloni anghenion cyfredol ac yn y dyfodol. Ar ôl lansio ein cyfres ddiwygiedig o Ddyfarniadau Galwedigaethol wedi'u hanelu at bobl ifanc 14-16 mlwydd oed yn ddiweddar, rydym nawr yn troi ein sylw at ddatblygu cymwysterau newydd i rai 16-18 mlwydd oed. Mae datblygu cymwysterau'n benodol ar gyfer Cymru'n ein galluogi ni i fynd i'r afael ag agweddau ar bwnc neu sector sy'n unigryw i Gymru, yn ogystal ag ymateb i ganlyniadau rhaglen adolygu sector Cymwysterau Cymru."
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am gynrychiolwyr i ymuno â'n Grwpiau Cynghori ar Gymwysterau. Gweler yma am ragor o wybodaeth.
Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn gwybodaeth a diweddariadau.