Cefnogaeth a Chysylltau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am eich canlyniadau eleni, gallech wneud hyn: 

 

Darllen ein gwybodaeth - dylai'r wybodaeth sydd i'w gweld ar ein tudalennau diwrnod y canlyniadau, ein Canllaw i Ganlyniadau, a'n tudalennau Cefnogaeth i Fyfyrwyr helpu i ddarparu atebion. 

 

Siarad ag athro – dylai eich ysgol neu goleg fod wedi rhoi manylion cyswllt i chi fel y gallwch chi drafod eich canlyniadau ag aelod o'r staff. 

 

Cysylltu â ni - os byddai’n well gennych chi gysylltu â'n tîm, rydym yn eich cynghori i anfon neges e-bost atom, bydd hyn yn gwneud yn siŵr ein bod yn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i'ch ymholiad. 


 

Gwybodaeth ychwanegol 

 

Siarad â'ch coleg neu brifysgol.

 

Cysylltwch ag UCAS am wybodaeth a chyngor ynghylch derbyniadau i brifysgolion a cholegau. 

Ffôn: 0371 468 0 468 

www.ucas.com 

  

Mae gwybodaeth reoleiddiol ar gael gan Cymwysterau Cymru. 

Ffôn: 01633 373 222 

www.qualificationswales.org   

ymholiadau@cymwysteraucymru.org

  

Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru wybodaeth ar gyfer dysgwyr ynghylch cymwysterau a chamau nesaf ar gyfer 2021 

www.complantcymru.org.uk


 

Cefnogaeth iechyd meddwl 

 

Mae'n bwysig i chi siarad â rhywun os ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n brwydro â'ch iechyd meddwl. Gallai hyn fod yn athro/athrawes neu aelod arall o staff yn eich ysgol/coleg, perthynas, neu rywun sy'n gweithio'n broffesiynol yn y maes gofal iechyd. Mae rhai cysylltau defnyddiol i'w gweld isod hefyd. 

  

Hwb – Porth Llywodraeth Cymru yn cynnig llawer o linellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol 

Mind – un o'r prif sefydliadau iechyd meddwl yn y wlad. 

Ffôn: 0300 123 3393, 

info@mind.org.uk 

  

Childline 

Rhif ffôn 0800 11 11 

Young Minds – Elusen sy'n rhoi adnoddau a chefnogaeth i bobl ifanc a rhieni