Arweiniad i’r Arholiad

Wedi'u hanelu at ddysgwyr, mae'r adnoddau Arweiniad i’r Arholiad hyn yn cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i fynd i'r afael â chwestiynau mewn papurau arholiad yn effeithiol. Gan ddefnyddio cwestiynau o gyn bapurau, bydd pob PPT, gyda chymorth sain a sgript sain yn y nodiadau, yn eich tywys trwy ffug bapur arholiad, gan eich helpu i adolygu ac ymarfer technegau arholiad defnyddiol. Gallwch chi gwblhau'r “ffug arholiad” i gyd ar unwaith, mynd i’r afael ag un neu ddau o gwestiynau ar y tro neu ailedrych ar rai rhannau o'r cyflwyniad i atgyfnerthu'ch dysgu.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho’r PPT i sicrhau bod y sain yn gweithio'n effeithiol, gwnewch yn siŵr bod eich seinyddion / clustffonau ymlaen a pheidiwch ag anghofio gofyn i'ch athro os byddwch chi'n ansicr o unrhyw beth.

 

Pob lwc!

 

Mae sampl o'n hadnoddau arweiniad i'r arholiad ar gael isod. I weld yr holl adnoddau sydd ar gael, ewch i'n gwefan adnoddau penodol.