Tachwedd 2022: Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gael
Gallwch weld Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer asesiadau Tachwedd 2022 ar gyfer y pynciau isod:
Haf 2022: Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gael
Mewn llawer o bynciau addaswyd yr Asesiad Di-arholiad yn sylweddol ond nid oedd addasiadau ar gyfer yr unedau sy'n cael eu harholi. Gan fod amharu wedi parhau ar addysgu a dysgu, mae Gwybodaeth Ymlaen Llaw i'w gweld yn awr ar gyfer y pynciau ar y rhestr isod:
- TGAU Addysg Gorfforol Uned 1
- TGAU Addysg Gorfforol (cwrs byr) Uned 1
- TGAU Astudiaethau Crefyddol Uned 1
- TGAU Bwyd a Maeth Uned 1
- TGAU Cerddoriaeth Uned 3
- TGAU Cyfrifiadureg Uned 1
- TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gradd Unigol) Uned 1
- UG Addysg Gorfforol Uned 1
- UG Almaeneg Uned 2
- UG Cerddoriaeth Uned 3
- UG Ffrangeg Uned 2
- UG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Uned 1
- UG Sbaeneg Uned 2
- UG TGCh Gymhwysol Uned 1
- Safon Uwch Addysg Gorfforol Uned 3
- Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Uned 3 ac Uned 5
Oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi?
Athrawon – cysylltwch â'ch swyddog pwnc os hoffech chi gael mwy o gyngor, maen nhw bob amser ar gael i helpu. Hefyd, gallwch chi lawrlwytho pob math o wybodaeth, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin, o wefan y CGC yma. (insert link)
Dysgwyr – siaradwch â'ch athro – byddan nhw'n gallu dweud popeth y mae angen i chi ei wybod wrthych. Mae dewis o Gwestiynau Cyffredin defnyddiol i ddysgwyr ar gael hefyd, a Chwestiynau Cyffredin i Ymgeiswyr Preifat (LINK) ar wefan y CGC.
Mae hyn yn ychwanegol at y pynciau hynny y rhoddwyd gwybodaeth ymlaen llaw ar eu cyfer i ganolfannau ym mis Medi 2021.
- TGAU Drama Uned 3
- UG Drama a Theatr Uned 2
- Safon Uwch Drama a Theatr Uned 4
- UG Saesneg Iaith Uned 1 ac Uned 2
- Safon Uwch Saesneg Iaith Uned 3 ac Uned 4
- UG Llenyddiaeth Saesneg Uned 1, Uned 2 ac Uned 3
- Safon Uwch Llenyddiaeth Saesneg Uned 4*
- UG Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Uned 1 ac Uned 2
- Safon Uwch Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Uned 4
- TGAU Ffrangeg Uned 2 ac Uned 3
- TGAU Almaeneg Uned 2 ac Uned 3
- TGAU Sbaeneg Uned 2 ac Uned 3
- Safon Uwch Cerddoriaeth Uned 6
- TGAU Cymraeg Ail Iaith Uned 3 ac Uned 4
*Oherwydd natur benodol y wybodaeth ymlaen llaw, ni fydd yn cael ei rhyddhau ar gyfer y pwnc hwn tan 6 wythnos cyn yr arholiad.
Ar gyfer Safon Uwch Bioleg Uned 5, Safon Uwch Cemeg Uned 5 a Safon Uwch Ffiseg Uned 5, byddwn yn rhyddhau’r ddogfen Cyfarwyddiadau Cydosod ar gyfer y Tasgau Arbrofi un wythnos cyn yr arholiad, fel arfer. Bydd hon yn cynnwys gwybodaeth ymlaen llaw am y maes/meysydd testun a asesir yn y Dasg Arbrofi a’r Dasg Dadansoddi Ymarferol.
Beth yw pwrpas a swyddogaeth y Wybodaeth Ymlaen Llaw hon?
- Prif bwrpas y Wybodaeth Ymlaen Llaw hon yw rhoi gwybod beth y bydd rhai agweddau ar yr arholiad yn canolbwyntio arno er mwyn helpu dysgwyr i flaenoriaethu eu hadolygu; er enghraifft, rhywfaint o'r cynnwys, cyd-destunau, testunau gosod, testunau, is-destunau, themâu a sgiliau a asesir yn asesiadau 2022.
- Gall union natur y Wybodaeth Ymlaen Llaw amrywio yn ôl y pwnc, gan ddibynnu ar natur a dyluniad manyleb y cymhwyster a'i asesiadau.
- Ni fydd y wybodaeth hon ar lefel sy'n golygu y bydd modd ei defnyddio i ragfynegi cwestiynau na pharatoi atebion ac felly ni ddylid ei defnyddio i gyfyngu ar yr addysgu a'r dysgu.
- Gall canolfannau a dysgwyr ddefnyddio'r wybodaeth mewn ffordd hyblyg i gyflawni ei diben o ategu'r gwaith adolygu, ond ni ellir mynd â'r wybodaeth i mewn i arholiad.
Mae CBAC wedi addasu ei TGAU, UG a Safon Uwch yn 2022 er mwyn gwneud iawn am amser addysgu a dysgu a gollwyd ac unrhyw amhariad a all ddigwydd yn y dyfodol. Mae'r addasiadau yn cydymffurfio â gofynion Cymwysterau Cymru.
Mae'r addasiadau a ryddhawyd yn gynharach eleni fel a ganlyn:
Gorffennaf 2021: Rhyddhawyd addasiadau i unedau asesiad di-arholiad ac/neu unedau sy'n cael eu harholi ar gyfer pob cymhwyster TGAU a TAG CBAC. Mae'r addasiadau hyn yn:
- symleiddio'r cynnwys i'w asesu yn 2022
- lleihau gofynion yr Asesu Di-arholiad
- cyflwyno dewis i asesiadau naill ai drwy gynnig dewis o unedau neu ddewis o gwestiynau mewn uned.
Medi 2021: Rhyddhawyd Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer nifer bach o gymwysterau. Cymwysterau oedd y rhain yr oedd yn anodd darparu'r addasiadau a ddisgrifiwyd uchod ar eu cyfer (gallwch weld y wybodaeth ar dudalennau eich pwnc lle y bo'n berthnasol).
Hydref 2021: Cafodd rheolaethau cynnal Asesiadau Di-arholiad eu llacio gennym.
Mewn rhai pynciau, fel arfer, byddwn ni hefyd yn darparu fformiwlâu ar y papur arholiad i ddysgwyr eu defnyddio yn ystod yr asesiad.