Y newyddion diweddaraf am gofrestriadau a chanlyniadau unedau ein cymwysterau Lefel 1/2 Dyfarniadau Galwedigaethol

Y newyddion diweddaraf am gofrestriadau a chanlyniadau unedau ein cymwysterau Lefel 1/2 Dyfarniadau Galwedigaethol (wedi'i ddiweddaru 30/06/2020)

Cyfathrebwyd â chi'n ddiweddar i roi gwybod nad oeddem yn bwriadu dyfarnu canlyniadau unedau ar gyfer ein cyfres o gymwysterau Lefel 1/2 Dyfarniadau Galwedigaethol. Penderfynwyd gwneud hyn er mwyn ysgafnhau'r baich ar ganolfannau gan y byddai angen iddynt ddarparu Graddau Asesu Canolfannau (GAC) ar lefel cymhwyster ac uned. Penderfyniad oedd yn berthnasol i ddysgwyr sydd ran o'r ffordd drwy'r cymhwyster yw hwn a ddylai fod yn cwblhau eu cymhwyster yn haf 2021. Enghraifft o hyn fyddai dysgwyr ym Mlwyddyn 10 yn cwblhau asesiadau unedau'n unig yn haf 2020.

Amlinellwyd ein bwriad i gynnig cyfle i ddysgwyr sefyll yr asesiadau a ganslwyd yn haf 2020 yn ddiweddarach cyn cyfnod arholiadau ac asesu Haf 2021. Nodwyd hefyd ein bod yn bwriadu addasu rhywfaint ar y cymwysterau hyn (yn ddibynnol ar gytundeb y rheoleiddwyr) er mwyn lleihau'r baich addysgu a dysgu ar ddysgwyr, athrawon a staff canolfannau yn ystod blwyddyn academaidd 2020/2021.

Mae trafodaethau ynghylch y cynigion hyn wedi parhau ag Ofqual gan ystyried adborth ein canolfannau yng Nghymru a Lloegr. Yn sgil y trafodaethau hyn penderfynwyd caniatáu i ganolfannau gyflwyno graddau asesu canolfannau ar gyfer dysgwyr sy'n astudio ein cymwysterau Lefel 1/2 Dyfarniadau Galwedigaethol a ddylai fod yn sefyll asesiadau unedau yn yr haf. Dylent wneud hyn yn yr achosion hynny lle mae athrawon o'r farn bod ganddynt ddigon o wybodaeth a thystiolaeth i allu ffurfio'r farn hon. Cynghorwyd canolfannau i beidio â thynnu cofrestriadau ymgeiswyr yn ôl yr haf hwn. Os ydych wedi tynnu unrhyw gofrestriad yn ôl ar y sail na fyddai graddau unedau'n cael eu dyfarnu, peidiwch â chysylltu â'n tîm cofrestriadau tan y cewch wybod gennym beth yw dyddiad y cyfnod ailgofrestru. Dim ond cofrestriadau a wnaed ac a dynnwyd yn ôl yn flaenorol a dderbynnir, ni fydd yn bosibl cyflwyno cofrestriadau newydd am unedau.

Cyfathrebwn ymhellach â chanolfannau ynghylch y broses i'w defnyddio i benderfynu ar a chyflwyno'r graddau asesu canolfannau a threfnau rhestrol yr unedau i'r dysgwyr hynny sy'n gymwys yn gynnar ym mis Gorffennaf.

Mae trefniadau eraill ar waith ar gyfer ein cymwysterau Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol. Dylech gyfeirio at ein Diweddariad i Ganolfannau - Cymwysterau Galwedigaethol a Chymwysterau Cyffredinol Eraill am wybodaeth bellach.

Dylai canolfannau barhau i gyflwyno eu graddau asesu canolfannau ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n cwblhau cymwysterau Lefel 1/2 Dyfarniadau a Thystysgrifau Galwedigaethol a Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol yr haf hwn erbyn 19 Mehefin 2020 fel y cyfathrebwyd yn flaenorol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyhoeddiad hwn, cysylltwch â sgiliauallwybrau@cbac.co.uk.