UG/Safon Uwch newydd mewn Amgylchedd Adeiledig
Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein cymwysterau TAG UG a Safon Uwch mewn Amgylchedd Adeiledig ar gael i ganolfannau yng Nghymru eu haddysgu o hydref 2022. Bydd y dyfarniad UG cyntaf yn 2023, a bydd y dyfarniad Safon Uwch cyntaf yn 2024.
Mae ein cymwysterau TAG yn adeiladu ar ein cymhwyster TGAU mewn Amgylchedd Adeiledig newydd, ac mae'n datblygu dealltwriaeth dysgwyr o'r amgylchedd adeiledig, gan gynnwys rolau proffesiynol a thechnegol sydd ynddo a'r amrywiaeth o adeiladau, asedau ac adeileddau sy'n rhan ohono.
Mae'r fanyleb a'r deunyddiau asesu enghreifftiol, sydd wedi'u cymeradwyo can Cymwysterau Cymru, ar gael i'w llwytho i lawr oddi ar ein gwefan.
Dyma oedd gan Allan Perry, Swyddog Pwnc Adeiladu, i'w ddweud am ein cymhwyster newydd:
"Mae ein cyfres newydd o gymwysterau Amgylchedd Adeiledig wedi'u llunio mewn ymgynghoriad ag arweinwyr y sector ac arbenigwyr yn y diwydiant i sicrhau eu bod yn darparu'r sylfaen i alluogi dysgwyr i ystyried gyrfaoedd gwahanol o fewn y diwydiant adeiladu. Yn ogystal, bydd y testunau yr ymdrinnir â nhw yn galluogi canolfannau â chyfleusterau, adnoddau a sgiliau gwahanol ymysg eu staff i gyflwyno'r cymwysterau yn hyderus."
Hyfforddiant ac Adnoddau
I gefnogi canolfannau wrth gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn byddwn yn cynhyrchu cyfoeth o adnoddau digidol rhad ac am ddim a chyfres o gyrsiau Dysgu Proffesiynol.
I gefnogi ein cymhwyster TGAU, rydym yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru i gyflwyno rhaglen o weminarau rhad ac am ddim o fis Ionawr. Mae gwybodaeth bellach i'w gweld yma.
I sicrhau eich bod yn derbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, tanysgrifiwch i'n rhestr bostio.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi gwestiwn ynghylch y cymhwyster newydd hwn, cysylltwch â'n tîm pwnc:
Allan Perry
Swyddog Pwnc
029 2040 4259
Adeiladu@cbac.co.uk