Trefniadau dyfarnu - Haf 2020

Trefniadau dyfarnu - haf 2020

Neges gan Ian Morgan, Prif Weithredwr

Heddiw, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru drefniadau ar gyfer dyfarnu cymwysterau yn dilyn canslo'r arholiadau haf gan y Gweinidog Addysg ar 18 Mawrth a darparwyd canllawiau i athrawon, myfyrwyr, rhieni a gofalwyr. Rydym yn croesawu cyhoeddiad y dogfennau hyn gan Cymwysterau Cymru. Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod gwaith y dysgwyr a gofrestrwyd am ein cymwysterau yn cael ei gydnabod a'u bod yn derbyn gradd deg er mwyn gallu symud ymlaen.

Rydym yn ymroi i weithio gyda Cymwysterau Cymru, ysgolion a cholegau i ddyfarnu graddau'r haf hwn ar gyfer cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru ynghyd â'r cymhwyster Project Estynedig.

Yn yr wythnosau i ddod byddwn yn cysylltu ag ysgolion a cholegau i drafod cyflwyno eu graddau a asesir gan y ganolfan a threfn restrol pob dysgwr a gofrestrwyd am y cymwysterau CBAC hyn. Ni fydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon dim cynt na 29 Mai.

Rydym yn parhau i weithio gyda'r rheoleiddwyr i ystyried sut y byddwn yn dyfarnu'r amrywiol gymwysterau lefel mynediad, lefel 1/2 a lefel 3 a ddarparwn. Cewch wybod ar unwaith pan fydd unrhyw wybodaeth bellach ar gael

 

Canolfannau sy'n dilyn cymwysterau CBAC Eduqas

I'r canolfannau hynny yng Nghymru sy'n darparu unrhyw gymwysterau CBAC Eduqas, cyhoeddodd Ofqual drefniadau tebyg o ran y cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a Project Estynedig.

 

Parhau i gefnogi

Deallwn fod hwn yn gyfnod arbennig o anodd i'n hathrawon a'r dysgwyr ac y bydd gan lawer ohonoch gwestiynau pellach yr hoffech i ni eu hateb. Gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio'n ddiflino i wneud trefniadau terfynol o ran sut i weithredu ac i sicrhau bod y dysgwyr hynny sydd wedi bod yn gweithio'n galed yn paratoi ar gyfer eu cymwysterau dros sawl blwyddyn yn cael eu trin yn deg. Nod pob un o'n timau yw cefnogi'r holl athrawon, dysgwyr a chanolfannau. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei chyhoeddi maes o law, yn cynnwys diweddariad i amrywiol gwestiynau cyffredin.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth. Gobeithio eich bod i gyd yn aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn.