Sut i wneud y gorau o'n Trefnwyr Gwybodaeth

Sut i wneud y gorau o'n Trefnwyr Gwybodaeth

Mae ein Trefnwyr Gwybodaeth yn crynhoi'r holl wybodaeth allweddol am destun astudio mewn fformat syml. Maen nhw'n gweithio fel adnodd hunanastudio neu adolygu delfrydol i ddysgwyr, ond gallan nhw fod yn ddefnyddiol hefyd i athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Dyma sut gallwch chi wneud y mwyaf ohonyn nhw: 

Trefnu dysgu dros amser

Er bod y wybodaeth yn y Trefnwyr Gwybodaeth mewn fformat hawdd ei ystyried, bydd angen amser o hyd ar fyfyrwyr i allu deall y  wybodaeth honno. Yn syml, ystyr trefnu dros amser yw adolygu deunydd sydd wedi'i ddysgu'n barod gan fyfyrwyr gyda'r nod o gyfnerthu gwybodaeth yn eu cof tymor hir.

Mae trefnu dros amser yn ffordd wych o roi amser i fyfyrwyr bwyso a mesur yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu; yn y pendraw mae hyn yn arwain at gadw'r wybodaeth honno'n well. Ar ddechrau gwers gallech gynnal cwis i wneud iddyn nhw feddwl yn syth am y ffeithiau. Gallech chi hefyd osod aseiniadau gwaith cartref sy'n annog y myfyrwyr i edrych eto ar y Trefnydd Gwybodaeth ac i'w ddefnyddio i ysgogi eu syniadau eu hunain.

Adfer gweithgar

Mae hyn yn hanfodol wrth weithio gyda'r Trefnwyr Gwybodaeth! Y cam cyntaf yw deall y deunydd, ond dylid eu hannog hefyd i adfer y wybodaeth o'u cof eu hunain. Mae defnyddio cwis yn ddewis hyblyg ond mae trafod y cynnwys hefyd yn ffordd sy’n llai poenus i fyfyrwyr ehangu ar eu dealltwriaeth. Os yw'r pwnc yn un sy'n seiliedig ar draethodau, bydd defnyddio'r dull hwn yn eu hannog i ffurfio eu barn eu hunain ac i wneud cysylltiadau newydd rhwng testunau.

Yn ystod y trafodaethau hyn, cofiwch annog y myfyrwyr i ehangu ar y wybodaeth yn y TG drwy gynnwys eu gwybodaeth eu hunain. Er ei bod yn bosibl gwneud hyn gyda'r TG o'u blaenau, mae'n ffordd well o gyfnerthu eu gwybodaeth os nad yw'r deunydd ganddyn nhw.

Rhyngblethu

Amrywiaeth a gwrthgyferbynnu sy'n gyrru'r meddwl; gall dysgu arafu pan fydd dilyniant o destunau tebyg o flaen myfyrwyr. Proses addysgu yw rhyngblethu lle mae amrywiol destunau'n cael eu cymysgu mewn un wers.

Bydd creu amgylchedd gwrthgyferbyniol yn rhoi hwb i gyfnod canolbwyntio myfyrwyr ac yn helpu'r dysgu. Gall defnyddio'r TG bob hyn a hyn heb fynd dros yr un peth dro ar ôl tro osgoi dryswch a diflastod. Dewiswch un rhan o'r TG i'w archwilio'n fanylach yn hytrach na mynd ati i drafod bob dim ar unwaith. Ni fydd hyn yn gorlwytho'r myfyrwyr.

 

Gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu chi i wneud y mwyaf o'ch Trefnwyr Gwybodaeth. Mae'r rhain i gyd i'w gweld ar ein gwefan adnoddau. Gallwch chi hefyd ddilyn @adnoddau_cbac ar twitter i gael y diweddaraf am adnoddau newydd.

 

A oes gennym weithlu STEM ar gyfer y dyfodol?
A oes gennym weithlu STEM ar gyfer y dyfodol?
Blaenorol
Ydych chi am ymuno â ni yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023?
Ydych chi am ymuno â ni yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023?
Nesaf