Ofqual yn lansio ymgynghoriad: Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol, a chymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Eduqas

Ofqual yn lansio ymgynghoriad: Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol, a chymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Eduqas

Mae Ofqual yn cynnal ymgynghoriad am drefniadau dyfarnu graddau TGAU, UG a Safon Uwch (mewn perthynas â chymwysterau Eduqas yn unig) yr haf hwn ac am drefniadau dyfarnu amrywiol gymwysterau galwedigaethol a thechnegol.

Maen nhw am glywed gan athrawon, swyddogion arholiadau, prifathrawon ac arweinwyr colegau. Gall myfyrwyr, rhieni, gofalwyr, byrddau arholi a phobl eraill sy’n gweithio yn y byd addysg ymateb i’r ymgynghoriad hwn hefyd. Gallwch weld mwy am yr ymgynghoriad yn yr Ofqual Blog yma.

Manteisiwch ar y cyfle i gymryd rhan yn ymgynghoriad Ofqual am TGAU, UG a Safon Uwch (mewn perthynas â chymwysterau Eduqas yn unig), a Chymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol – gellir ymateb i’r naill ymgynghoriad a’r llall tan 29 Ionawr.

Rhannwch eich safbwyntiau a mynegwch eich barn am y ffordd ymlaen!