Ionawr / Haf 2022: Crynodeb gwybodaeth

Ionawr / Haf 2022: Crynodeb gwybodaeth

Arholiadau Ionawr 2022

I'ch atgoffa, cadarnhaodd Cymwysterau Cymru y bydd y dysgwyr hynny nad ydynt yn gallu sefyll eu harholiadau ym mis Ionawr yn cael y cyfle i'w sefyll yr yr haf. Mae'n bwysig nodi hefyd bod darpariaeth Ystyriaeth Arbennig y CGC ar gael ar gyfer arholiadau Ionawr – gallwch lawrlwytho datganiad y CGC yma 

Os hoffai dysgwyr gael gwybod mwy yna mae dewis o Gwestiynau Cyffredin defnyddiol ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru yma.

Noder hefyd yr anfonwyd Cylchlythyr Ionawr CBAC i bob canolfan. Ynddo mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am gynnal arholiadau Ionawr.

 

Haf 2022 – addasiadau

Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AC, y bydd arholiadau TGAU ac UG/Safon Uwch yn digwydd yn ystod yr haf, er y bydd addasiadau iddynt oherwydd yr amser addysgu a dysgu a gollwyd. Mae ein llyfrynnau addasiadau a thudalennau cymwysterau unigol yn cynnwys gwybodaeth am yr addasiadau hyn.

Cafodd Gwybodaeth Ymlaen Llaw ei rhyddhau ar gyfer rhai cymwysterau ym mis Medi. Er hynny, byddwn yn rhyddhau Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer nifer bach o gymwysterau CBAC TGAU, UG a Safon Uwch ar ein gwefan erbyn 7fed Chwefror. Gall dysgwyr ddefnyddio'r wybodaeth hon fel ffordd o ganolbwyntio eu gwaith adolygu – gellir lawrlwytho'r rhestr lawn o bynciau a manylion llawn ar ddiben a swyddogaeth y Wybodaeth Ymlaen Llaw yma.

Rhyddheir Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer ein Cymwysterau Galwedigaethol ym mis Ebrill 2022. Mae ein llyfryn addasiadau CG yn cynnwys gwybodaeth am y pynciau a'r arholiadau hynny a fydd yn cynnwys Gwybodaeth Ymlaen Llaw a gellir ei lawrlwytho yma.

 

Cefnogaeth adolygu i ddysgwyr

Mae dewis helaeth o ddeunyddiau dysgu ac adnoddau ar gael i helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer eu hasesiadau. Yn eu plith mae Arweiniad i'r Arholiad, Trefnwyr Gwybodaeth, a Modiwlau Dysgu Cyfunol. Gall dysgwyr lawrlwytho'r rhain i gyd, ynghyd ag awgrymiadau adolygu defnyddiol, o'n gwefan yma.

 

Haf 2022: Trefniadau wrth gefn (TGAU ac UG/Safon Uwch)

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei ddogfen arweiniad ar drefniadau asesu wrth gefn ar gyfer haf 2022 i'w defnyddio os na fydd yn bosibl cynnal arholiadau. Gallwch lawrlwytho arweiniad Cymwysterau Cymru yma. Mae Fframweithiau Asesu Cymwysterau i'w gweld ar dudalennau'r pynciau ar ein gwefan gyhoeddus yma.

Mae ein timau'n parhau i fod wrth law i gynnig cefnogaeth ac arweiniad i chi. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.