Haf 2022: Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gael

Haf 2022: Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gael

07/02/2022

Heddiw rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer y cymwysterau CBAC TGAU a TAG hyn:

Bydd Gwybodaeth Ymlaen Llaw sy'n benodol i'r darnau heb eu gweld yn Uned 4 CBAC Safon Uwch Saesneg Iaith a Llenyddiaeth yn cael ei chyhoeddi ar 09 Mai 2022.

Cyhoeddwyd gwybodaeth ymlaen llaw gennym ar gyfer sawl cymhwyster CBAC ym mis Medi 2021.

Mae'r holl wybodaeth ymlaen llaw i'w gweld ar dudalennau'r pynciau perthnasol ar ein gwefan.

Bwriad y Wybodaeth Ymlaen Llaw yw rhoi gwybod ymlaen llaw, cyn yr arholiadau, beth fydd ffocws cynnwys yr arholiadau, neu ran o'r arholiadau, fydd yn cael ei asesu yn 2022. Prif bwrpas gwybodaeth ymlaen llaw yw cefnogi'r myfyrwyr wrth iddynt adolygu. 

Dim ond un o'r mesurau yr ydym yn eu defnyddio i gefnogi athrawon a myfyrwyr ar gyfer cyfres arholiadau haf 2022 yw gwybodaeth ymlaen llaw.

Addasiadau i bynciau

Cyhoeddwyd addasiadau i unedau Asesiad Di-arholiad a/neu unedau arholiad pob cymhwyster CBAC TGAU ac UG/Safon Uwch ym mis Gorffennaf 2021. Mae canllaw cyflawn i'w weld ar ein Gwefan Ddiogel.

Fel arall, mae'r addasiadau wedi'u crynhoi ar ein gwefan dan Haf 2022.

Cymwysterau Eduqas

Heddiw hefyd, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ymlaen llaw ar ein gwefan Eduqas i'r canolfannau hynny yng Nghymru sy'n cynnig cymwysterau Eduqas TGAU, UG a Safon Uwch.

Cymwysterau Galwedigaethol

Mae gwybodaeth ynghylch addasiadau ar gyfer Haf 2022 yn ymwneud â'n cyfres o Gymwysterau Galwedigaethol i'w cael o'r dudalen we ganlynol. Cyhoeddir gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer y cymwysterau perthnasol yn ystod mis Ebrill.

Canllawiau a chefnogaeth bellach ar gyfer Haf 2022

Mae dewis eang o adnoddau digidol rhad ac am ddim a Chwestiynau Cyffredin i'w gweld ar ein gwefan dan Haf 2022.

Mae ein timau'n parhau i fod wrth law i gynnig cefnogaeth ac arweiniad i chi. Edrychwn ymlaen at eich cefnogi chi wrth i chi barhau i gynllunio a pharatoi yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Cysylltwch â thîm y pwnc perthnasol os oes gennych unrhyw gwestiynau am wybodaeth ymlaen llaw, neu anfonwch e-bost at gwybodaeth@cbac.co.uk.

Os ydych chi'n ddysgwr a rhai pethau ddim yn glir i chi o hyd, gofynnwch i'ch athro – maen nhw'n gwybod popeth y mae angen i chi ei wybod.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.