Haf 2022: Canlyniadau'r Arolygon Dysgwyr

Haf 2022: Canlyniadau'r Arolygon Dysgwyr

Deallwn fod y sefyllfa bresennol wedi amharu'n sylweddol ar addysgu a dysgu y dysgwyr drwy gydol 2020 a 2021. O ganlyniad, lansiwyd ymgynghoriad gennym ym mis Mehefin am y newidiadau rydym yn bwriadu eu gwneud i gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn 2022. Cadarnhaodd Cymwysterau Cymru y bydd cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch wedi'u cymeradwyo yn cael eu hasesu drwy arholiadau ac asesiadau di-arholiad fel arfer yn haf 2022. Byddant fodd bynnag yn adlewyrchu'r addasiadau hyn.

Gwnaeth tua 950 o ddysgwyr, rhieni a gofalwyr o bob rhan o Gymru gymryd rhan yn ein harolwg, ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr adborth a'r sylwadau a dderbyniwyd.

Rydym wedi adolygu'r adborth hwn yn fanwl ac mae'n bleser gennym gadarnhau bod y mwyafrif o'r ymatebwyr wedi cefnogi ein cynigion.

Gallwch edrych ar ganlyniadau'r arolwg yn yr adroddiad canlynol. Hefyd, bydd addasiadau i bob pwnc i'w gweld ar y tudalennau gwe perthnasol yn nes ymlaen ym mis Medi.

 

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf ar Instagram

Dylai unrhyw ddysgwyr sydd am dderbyn y newyddion, adnoddau a'r wybodaeth ddiweddaraf gennym ddilyn ein cyfrif Instagram @cbacifyfyrwyr