Haf 2022: Addasiadau i gymwysterau TGAU ac UG/Safon Uwch

Haf 2022: Addasiadau i gymwysterau TGAU ac UG/Safon Uwch

Deallwn fod llawer o amharu wedi bod i athrawon a dysgwyr drwy gydol 2020 a 2021. Rydym wedi ymgynghori ar addasiadau arfaethedig i'r arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch, ac Asesiadau Di-arholiad yn 2022.

Mae mwy na 1,200 o athrawon, darlithwyr ac uwch arweinwyr o ysgolion a cholegau ledled Cymru wedi cymryd rhan yn ein harolygon. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl adborth a'r awgrymiadau a dderbyniwyd.

Adolygodd ein timau pynciau'r adborth hwn yn fanwl erbyn hyn. Rydym yn falch o gadarnhau bod yr ymatebwyr i lawer o'r pynciau wedi cefnogi ein cynigion. Newidiwyd y cynigion cychwynnol mewn rhai achosion, ar sail yr adborth adeiladol a dderbyniwyd.

Gall athrawon a darlithwyr lwytho i lawr ein llyfrynnau addasiadau TGAU ac UG/Safon Uwch. Maen nhw hefyd yn crynhoi canlyniadau pob cymhwyster ac i'w gweld ar ein Gwefan Ddiogel.

Cadarnhaodd Cymwysterau Cymru hefyd y bydd cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch wedi'u cymeradwyo yn cael eu hasesu drwy arholiadau ac asesiadau di-arholiad fel arfer yn haf 2022. Byddant yn adlewyrchu'r addasiadau hyn. Fodd bynnag, bydd trefniadau amgen ar waith rhag ofn y bydd y pandemig yn dal i effeithio'n sylweddol ar addysgu a dysgu.


Diweddariad o'r arolwg i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr

Cynhaliwyd arolwg ar wahân hefyd yn benodol i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr – ymatebodd mwy nag 800 i'r arolwg hwn. Bydd canlyniadau'r arolwg hwn i'w gweld ar ein gwefan yn ystod mis Awst.

Y wybodaeth ddiweddaraf

Tanysgrifiwch i'n bwletinau e-bost i dderbyn y wybodaeth a'r arweiniad diweddaraf. Hefyd, cofiwch ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael newyddion a diweddariadau rheolaidd.