Gweminarau Rhyngwladol Ar-lein ar Ffilm a Llenyddiaeth Sbaenig - (Rhagfyr 2020-Chwefror 2021) - Ar gael am ddim gan Goleg Radley
Mae Coleg Radley yn Swydd Rydychen yn cynnig cyfres gyffrous o weminarau ar Lenyddiaeth a Diwylliant Sbaenig fel cefnogaeth am ddim i athrawon a myfyrwyr. Mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o destunau a ffilmiau, rhai ohonyn nhw'n cael eu cynnig ar fanylebau CBAC:
- El Coronel no tiene quien le escriba
- Como agua para chocolate
- Réquiem para un campesino español
- La casa de Bernarda Alba
- Las bicicletas son para el verano
- El laberinto del fauno
- Volver
Mae sesiynau hefyd sy'n ymdrin â'r themâu canlynol:
- La Guerra Civil
- La España franquista
- El turismo en España - el turismo y el anti-turismo
- La dictadura franquista en el cine español
- Los problemas de los inmigrantes en España
Cyflwynir y rhaglen gan restr drawiadol o academyddion o brifysgolion yn Sbaen, America Ladin, UDA ac yma yn y DU.
Gallwch weld y rhestr o siaradwyr yma.
Nid CBAC sy'n trefnu'r seminarau hyn.
Am wybodaeth bellach ac i fynegi eich diddordeb, cysylltwch â threfnydd y rhaglen, Patti Hinde o Goleg Radley, Swydd Rydychen ar APH.Hinde@radley.org.uk neu ewch i'w gwefan webinarioilch.com.
Sylwch fod y gweminarau ar agor i ysgolion y wladwriaeth yn unig, ond bydd pob sesiwn yn cael ei recordio a'i lanlwytho ar wefan Coleg Radley i unrhyw un ei gyrchu.