Grŵp Cynghori ar Ddatblygu – wedi'i lansio

Grŵp Cynghori ar Ddatblygu – wedi'i lansio

Rydym yn falch o gyhoeddi, fel rhan o broses barhaus CBAC i ymrwymo i ymgysylltu â'n rhanddeiliaid, rydym wedi lansio ein Grŵp Cynghori ar Ddatblygu a'n Grŵp Cynghori Dysgwyr, sydd â'r nod o gefnogi datblygiad ein cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd.

Bydd y Grŵp Cynghori ar Ddatblygu yn gyfle ar gyfer deialog barhaus â'n canolfannau a'n rhanddeiliaid i sicrhau bod ein cymhwyster newydd yn addas i'r pwrpas ac yn ymateb i anghenion presennol dysgwyr ac ymarferwyr a'u hanghenion yn y dyfodol. Mae hefyd yn gyfle i aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu ein hysbysu a'n cynorthwyo o ran datblygu a chynnal ymyriadau strategol i gymwysterau sy'n bodloni anghenion y sector yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.

Aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu

Un elfen hanfodol wrth ddatblygu'r Grŵp Cynghori hwn oedd sicrhau cynrychiolaeth eang o randdeiliaid o bob rhan o'r sector addysg oedd yn meddu ar amrywiaeth gyflenwol o brofiad a gwybodaeth. 

Dyma oedd gan Rachel Dodge, Swyddog Datblygu Cymwysterau, i'w ddweud am y broses recriwtio:

Ein nod oedd sicrhau nad proses fyddai'n digwydd ar wahân fyddai datblygu'r cymhwyster newydd, ac rydym wrthi'n mynd ati i ofyn am safbwyntiau ac arbenigedd amrywiaeth o randdeiliaid. Galwyd ar ymarferwyr a rheolwyr o adrannau chweched dosbarth ysgolion, colegau addysg bellach, cyflogwyr, sefydliadau addysg uwch, a chyrff allanol oedd â diddordeb yn y cymhwyster er mwyn sicrhau y gellid gofyn am amrywiaeth o safbwyntiau gwrthrychol, drwy gydol y broses ddatblygu.’

Sicrhawyd hefyd nad oedd ein rhanddeiliaid cynrychiadol wedi'u cyfyngu i Gymru yn unig oherwydd, yn ein barn ni, mae'n hollbwysig codi ymwybyddiaeth o'r cymhwyster unigryw hwn a chynnal cyfathrebu â phrifysgolion a chyflogwyr yn Lloegr.”

Dechreuodd y broses recriwtio ar gyfer y Grŵp Cynghori yn yr hydref, a chawsom dros 30 o geisiadau o amrywiaeth eang o randdeiliaid a oedd yn awyddus i gyfrannu. Cafodd pob cais ei adolygu'n ofalus drwy broses agored a thryloyw, a dewiswyd y 10 penodai llwyddiannus yn seiliedig ar feini prawf penodol (gan gynnwys cynrychiolaeth, lleoliad daearyddol, ac amrywiaeth o rolau).

Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r aelodau sydd wedi'u cadarnhau o'r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu isod:

Enw 

Rôl 

Corff 

Dr Anne Chappel  

Pennaeth yr Adran Addysg 

Prifysgol Brunel, Llundain 

Bradley Tanner 

Rheolwr Addysg 

Iungo Solutions, Cymru Gyfan 

Catherine Jones 

Cydlynydd Bagloriaeth Uwch 

Ysgol Glan Clwyd, Conwy 

Catrin Penry Williams 

Arweinydd y Dystysgrif Her Sgiliau 

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Diane Evans 

Arweinydd ôl-16 a chymwysterau Bagloriaeth Cymru 

Partneriaeth, Gorllewin Cymru 

Dr Joshua Andrews 

Darlithydd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd 

Prifysgol Bangor 

Gareth Rhodri Jones 

Cyfarwyddwr Addysg Gyffredinol 

Coleg Cambria, Iâl 

Heather Francis 

Uwch Swyddog Recriwtio Myfyrwyr 

Prifysgol De Cymru, Caerdydd 

Rebecca Davies 

Prif Weithredwr 

Cynllun Addysg Peirianneg Cymru 

Sarah Kerrigan

Pennaeth sgiliau

Coleg Merthyr

Sean McDermott

Cydlynydd Bagloriaeth Uwch

Welshpool High School

Dywedodd Dr Anne Chappel, Pennaeth yr Adran Addysg ym Mhrifysgol Brunel:

Roeddwn i’n awyddus i fod yn rhan o’r grŵp cynghori ar gyfer y cymhwyster hwn oherwydd ei fod yn rhoi pwyslais cyffrous ar ymdrechion addysgol sydd â’r potensial o fod yn drawsffurfiol ar yr adeg y mae’r bobl ifanc yn ymwneud ag ef, yn ogystal â chyfrannu at eu dyfodol. Mae’r panel cynghori yn dod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd o rannau gwahanol o’r gymuned addysg sy’n gallu cyfrannu at y trafodaethau datblygiadol.”

Tasgau nesaf
Bydd y Grŵp Cynghori ar Ddatblygu yn sicrhau bod y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn hylaw, yn ddilys ac yn addas i’r pwrpas. Bydd y rhanddeiliaid, sy'n ddefnyddwyr hefyd, yn gallu rhoi safbwynt gwrthrychol drwy gydol y broses, gan ganiatáu i nihefyd ddefnyddio ein gwybodaeth am asesu i esbonio'r sail resymegol dros ein penderfyniadau, yn ogystal â sicrhau bod y cymhwyster yn cyfateb i ofynion y rheoleiddwyr.

Dyma flaenoriaethau cychwynnol y Grŵp Cynghori ar Ddatblygu:

  • Rhoi adborth ac awgrymiadau ar y strwythur a'r cynnwys arfaethedig
  • Defnyddio'r grŵp fel fforwm ar gyfer yr adborth a gafwyd
  • Archwilio'r cynnwys sydd wedi'i lunio ar gamau allweddol –gofyn a yw'r cynnwys yn ddiddorol ac yn ymarferol?
  • Ar bob cam, rhoi adborth ac awgrymiadau ar ystrwythur a'r cynnwys arfaethedig cyn cyflwyno'r deunydd i Cymwysterau Cymru.

Dyma oedd gan Rachel Dodge, Swyddog Datblygu Cymwysterau, i'w ddweud am ein cyhoeddiad:

Rwyf i wrth fy modd â brwdfrydedd ac angerdd aelodau'r Grŵp Cynghori.Mae consensws gwirioneddol o falchder a phenderfyniad i lunio cymhwyster lle mae gofynion athrawon a myfyrwyr yn hollbwysig.”

Mwy am y Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Addysgir y cymhwyster newydd hwn yn y canolfannau o fis Medi 2023. Bydd y dyfarniad cyntaf yn digwydd yn haf 2025. Y cymhwyster hwn fydd yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch bresennol yn dilyn ymgynghoriad 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' Cymwysterau Cymru yn nhymor yr hydref 2020. Bydd ein grwpiau cynghori yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o'i ddatblygu, gan sicrhau ein bod yn datblygu cymhwyster arloesol, sy’n arwain y sector, a fydd yn rhoiamrywiaeth o sgiliau i ddysgwyr a fydd yn eu galluogi i ffynnu mewn marchnad fyd-eang.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am ddatblygiad Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch, tanysgrifiwch i'n bwletin e-bost