Gorchfygwch eich arholiadau yn hyderus

Meistroli eich arholiadau yn hyderus 

Mae'r foment fawr wedi cyrraedd, mae'n ddiwrnod arholiadau, a nawr yw eich cyfle i ddisgleirio. Peidiwch â gadael i'ch gwaith caled fynd i wastraff drwy ildio i'ch nerfau. Dilynwch y cynghorion effeithiol hyn ynghylch techneg arholiadau. 

 1) Peidiwch â chynhyrfu  mae'r sefyllfa dan reolaeth! 

Gwnewch eich gorau i beidio â chynhyrfu wrth fynd i mewn i'r ystafell arholiad. Efallai y byddai'n syniad i chi wneud rhywfaint o ymarferion ymlacio ac anadlu i dawelu eich meddwl. Byddwch yn gadarnhaol, meddyliwch am yr arholiad fel her, nid bygythiad. 

2) Darllenwch y cwestiwn yn iawn 

Cymerwch eich amser, a sicrhewch eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau a'r cwestiynau yn ofalus. Ailddarllenwch bob cwestiwn fel eich bod yn deall yn union beth sy'n rhaid i chi ei wneud, gan danlinellu neu amlygu gwybodaeth allweddol yn y cwestiwn y mae angen i chi ei ateb. 

3) Mae amser yn ffactor allweddol 

Unwaith rydych chi'n sicr ynghylch y cwestiynau y byddwch chi'n eu hateb, cynlluniwch eich ateb. Gwnewch nodyn o sawl marc sydd i'w gael am bob cwestiwn. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu faint o amser i'w roi i'ch atebion. 

Ysgrifennwch pryd y byddwch yn cychwyn bob rhan o'r cwestiwn a chofiwch ganiatáu digon o amser i brawf ddarllen eich papur. 

4) Eich arholiad chi yn eich trefn chi 

Ewch i'r afael â'r arholiad ym mha bynnag drefn sy'n gweithio orau i chi. Nid oes rheol sy'n mynnu bod yn rhaid i chi gwblhau'r papur mewn trefn gronolegol. Chwiliwch am bethau fydd yn siŵr o ennill marciau i chi (testunau rydych chi'n eu hadnabod yn drylwyr), yna bydd mwy o amser gennych i ganolbwyntio ar gwestiynau mwy heriol 

5) Symudwch ymlaen 

Os yw eich meddwl yn mynd yn wag – rhowch eich beiro i lawr, anadlwch yn ddwfn ac ymlaciwch am eiliad. Os ydych chi yng nghanol ateb, darllenwch drwy'r hyn rydych chi wedi'i ysgrifennu hyd yn hyn. Os nad oes unrhyw beth yn dod i'r meddwl, gadewch le a symudwch ymlaen. 
 
Os oes cwestiwn nad ydych chi'n gallu ei ateb, ewch ymlaen i'r nesaf i adennill hyder drwy ateb cwestiwn arall yn gyntaf. Cofiwch gallwch bob amser ddod yn ôl ato. 

6) Gwyliwch y cloc 

Edrychwch ar y cloc bob cwpl o gwestiynau – bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn caniatáu digon o amser i ateb bob cwestiwn. 

7) Rhowch gynnig arni! 

Rydych chi'n debygol o ennill mwy o farciau drwy roi cynnig ar yr holl gwestiynau yr oeddech wedi'u cynllunio yn hytrach nag ysgrifennu atebion cryf i rai ond gadael rhai eraill yn wag. 

8) Os yw amser yn brin 

Peidiwch â chynhyrfu! Edrychwch ar y cwestiynau sydd gennych ar ôl i'w hateb a rhannwch yr amser sydd ar ôl yn gyfartal. Byddwch yn effeithlon – gwnewch bwynt, cefnogwch y pwynt â thystiolaeth ac yna symudwch ymlaen i'r pwynt nesaf. Os na allwch orffen mewn amser, rhestrwch yn gryno y pwyntiau yr oeddech am eu gwneud. 
 
AWGRYM – Safon, nid nifer: mae safon y ddadl yn bwysicach na nifer y geiriau rydych chi'n eu defnyddio. 

9) Mae pob eiliad yn werthfawr 

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi gorffen ac mae amser ar ôl o hyd, peidiwch â gadael yn gynnar! Prawfddarllenwch eich atebion, gwiriwch eich sillafiadau, eich gramadeg a'ch fformiwlâu, a meddyliwch am ffyrdd i gryfhau eich dadleuon. Peidiwch â gwastraffu unrhyw amser gwerthfawr. 

10) Pan fydd yr arholiad wedi gorffen, anghofiwch amdano. 

Peidiwch ag ail-fyw'r arholiad ar ôl iddo orffen. Ni fydd cymharu atebion ar gyfryngau cymdeithasol neu gyda'ch ffrindiau yn helpu mewn unrhyw ffordd. Rydych chi wedi gwneud eich gorau ac ni allwch newid unrhyw beth bellach. 

11) Da iawn! Amser i wobrwyo eich hun

Gallai fod yn demtasiwn i roi eich pen yn syth yn eich nodiadau adolygu ar gyfer yr arholiad nesaf, ond mae'n bwysig ymlacio'r ymennydd. Gwobrwywch eich hun drwy wneud rhywbeth nad yw'n gysylltiedig ag arholiadau. Beth am wylio ffilm ar Netlflix? Mynd am dro neu redeg o gwmpas y parc? Neu wrando ar eich hoff gerddoriaeth?
 

Pob lwc i chi!