Eich gwahoddiad i'r 7fed Gwobrau Delwedd Symudol
Ymunwch â ni ar ddydd Llun 15 Chwefror am 5:30 p.m. ar gyfer ein Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol.
Yn sgil cyfyngiadau'r llywodraeth, byddwn yn cynnal y digwyddiad ar-lein a byddwn yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwneuthurwyr a sgriptwyr ffilmiau mwyaf talentog y DU sy'n fyfyrwyr.
Wela' i chi yno – beth yw'r manylion?
DYDDIAD: Dydd Llun 15 Chwefror, 2021
AMSER: 5:30 p.m. – 19:00 p.m.
GWYLIWCH YMA: https://www.youtube.com/watch?v=Z0IJrbLvqfw
Mwy o wybodaeth am y gwobrau
Bob blwyddyn, gwahoddir myfyrwyr sy'n astudio ein cymwysterau mewn Astudiaethau Ffilm ac Astudio’r Cyfryngau i gyflwyno'u gwaith i gael ei ystyried gan banel o feirniaid, gyda gwobrau ar gyfer y Ffilm Orau, y Sgript Ffilm Orau a'r Fideo Cerddoriaeth Gorau. Eleni, rydym wedi croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr a gwblhaodd eu gwaith ond nad oedden nhw'n gallu cyflwyno'r asesiad di-arholiad i'w asesu yn 2020 oherwydd Covid19.
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Delweddau Symudol, ewch i: https://www.gwobraudelweddsymudol.co.uk
Beth ddylwn i ei ddisgwyl?
Bydd gwaith y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cael ei arddangos yn rhithiol, bydd enillwyr y pum categori yn cael eu cyhoeddi, a bydd syrpreisys arbennig ar hyd y ffordd.
Rydym wir yn edrych ymlaen at groesawu gwesteiwr anhygoel y digwyddiad, Anna Smith (BBC, SKY, Podlediad Girls on Film). Rydym hefyd yn falch iawn bod Michael Sheen OBE a Peter Lord CBE ymysg y gwesteion gwych a fydd yn gwobrwyo gwaith myfyrwyr eleni.
Oeddech chi’n gwybod? Rydym newydd ryddhau ein rhestr o siaradwyr ysbrydoledig! Dewch i wybod mwy amdanyn nhw yma>
Welwn ni chi ddydd Llun!
O.N. Defnyddiwch #GwobrauDelweddSymudol i ymuno â'r drafodaeth ar Twitter.