Dyfarnu manylebau UG a TGAU Blwyddyn 10 CBAC yng Nghymru

Dyfarnu manylebau UG a TGAU Blwyddyn 10 CBAC yng Nghymru

Yn dilyn y cyhoeddiad gan y llywodraeth na chynhelir arholiadau’r haf hwn, mae ein timau wedi bod yn cydweithio'n agos â Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru i roi trefniadau addas ar waith i sicrhau bod dysgwyr a gofrestrwyd am gymwysterau yr haf hwn yn derbyn gradd deg am y cymhwyster hwnnw.

Yr wythnos diwethaf, amlinellwyd sut byddem yn gweithredu o ran dysgwyr TGAU a Safon Uwch; mae'r datganiad llawn i'w weld yma. Cynhaliwyd trafodaethau rhwng CBAC a Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru ac, yn dilyn cyhoeddiad Kirsty Williams heddiw a datganiad Cymwysterau Cymru, gallwn gadarnhau yn awr sut byddwn yn gweithredu o ran dysgwyr UG a TGAU Blwyddyn 10 sy'n dilyn cymwysterau CBAC.

Dysgwyr UG
Nid yw'r UG yn gymwysterau arunig yn ein manylebau CBAC yng Nghymru; maent hefyd yn cyfrannu at gymwysterau Safon Uwch. Fel arfer, bydd unedau UG yn cael eu sefyll ym Mlwyddyn 12 a'r unedau U2 yn cael eu sefyll ym Mlwyddyn 13.Efallai y bydd rhai dysgwyr yn sefyll cymwysterau UG yn unig heb symud ymlaen i'r Safon Uwch. Gan na chynhelir arholiadau'r haf hwn, deallwn y bydd goblygiadau i'r dysgwyr hynny sy'n cofrestru am gymwysterau UG arunig ac i'r rheiny sy'n sefyll eu hunedau UG eleni yn barod i symud ymlaen at y Safon Uwch lawn y flwyddyn nesaf. Rydym yn falch o'ch hysbysu ein bod wedi dod i gytundeb â Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru i weithredu fel a ganlyn o ran cymwysterau CBAC.

• Ni fydd gofyn i'r dysgwyr hynny oedd i fod i sefyll eu harholiadau UG yr haf hwn sefyll yr arholiadau hynny bellach.
• Dyfernir cymhwyster i ddysgwyr UG ar sail debyg i’r dysgwyr hynny oedd i fod i sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn.
• Bydd dysgwyr UG yn derbyn gradd UG derfynol gan CBAC yr haf hwn. Seilir y radd hon ar amrediad o dystiolaeth, yn cynnwys graddau wedi'u hasesu gan athrawon.
• Ni fydd y radd UG a ddyfernir i ddysgwyr yr haf hwn yn cyfrannu at eu canlyniadau Safon Uwch yn 2021.
• Yn haf 2021, caiff dysgwyr ddau ddewis o ran eu cymwysterau Safon Uwch, sef, naill ai:


1. sefyll eu hunedau U2 yn unig, a'r radd i'w dyfarnu yn seiliedig ar eu perfformiad yn yr unedau hynny'n unig (a ddefnyddir i gyfrifo marciau ar gyfer eu hunedau UG)
neu
2. sefyll unedau UG ac U2, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
• Os bydd dysgwyr yn penderfynu mynd am yr ail ddewis (opsiwn 2), byddwn hefyd yn ystyried y radd a fyddai wedi'i dyfarnu iddynt pe byddent wedi dewis opsiwn 1. Y radd derfynol a dderbynnir ganddynt fydd y radd orau i'w dyfarnu o'r naill opsiwn a'r llall.

Dysgwyr TGAU Blwyddyn 10
Yn achos dysgwyr ym Mlwyddyn 10 oedd i fod i sefyll unedau i gwblhau eu cymhwyster TGAU yr haf hwn, byddant yn derbyn gradd ar sail yr un broses a amlinellwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer dysgwyr TGAU Blwyddyn 11.

Yn achos dysgwyr ym Mlwyddyn 10 oedd i fod i sefyll unedau'n unig, yn hytrach na chwblhau cymhwyster TGAU cyflawn yr haf hwn, ni chyhoeddir canlyniadau uned gennym. Bydd dau ddewis ar gael i'r dysgwyr hynny sef, naill ai:
1. sefyll yr unedau Blwyddyn 11 yn haf 2021, a chael cyfrifo eu gradd TGAU gyffredinol derfynol ar sail eu perfformiad yn yr unedau hynny
neu
2. sefyll yr unedau Blwyddyn 10 yn haf 2021, ynghyd â'u hunedau Blwyddyn 11.
Os bydd dysgwyr yn penderfynu mynd am yr ail ddewis (opsiwn 2), byddwn hefyd yn ystyried y radd a fyddai wedi'i dyfarnu iddynt pe byddent wedi dewis opsiwn 1. Y radd derfynol a dderbynnir ganddynt fydd y radd orau i'w dyfarnu o'r naill opsiwn a'r llall.

Graddau a asesir gan athrawon
Cyfrifir graddau cymwysterau ar sail graddau a asesir gan athrawon yn ogystal ag amrediad o dystiolaeth arall. Bydd Cymwysterau Cymru'n cyhoeddi canllawiau pellach yr wythnos nesaf ynghylch graddau a asesir gan athrawon.

Asesiad di-arholiad
Mae canllawiau'n ymwneud ag asesiadau di-arholiad ac asesiadau dan reolaeth wedi'u rhoi ar ein gwefan, mae'r datganiad llawn i'w weld drwy ddilyn y cyswllt canlynol. Dosbarthwyd canllawiau ychwanegol i'r holl Swyddogion Arholiadau hefyd.

Tystysgrif Her Sgiliau
Mae'r datganiad ynghylch asesiadau di-arholiad yn cyfeirio at yr asesiadau dan reolaeth fyddai wedi'u cwblhau gan ddysgwyr yn rhan o'u cymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau. Rydym wedi cadarnhau â Cymwysterau Cymru y byddwn yn cyhoeddi canlyniadau i ddysgwyr sy'n sefyll y Dystysgrif Her Sgiliau ar sail graddau a asesir gan athrawon ynghyd ag amrediad o dystiolaeth arall.

Cymwysterau Galwedigaethol
Rydym yn parhau i gydweithio â Cymwysterau Cymru a rheoleiddwyr eraill er mwyn ystyried sut i symud ymlaen i ddyfarnu cymwysterau ar gyfer dysgwyr a gofrestrwyd yr haf hwn am amrywiaeth o gymwysterau lefel 1/2, lefel 3, lefel mynediad a llwybrau mynediad a gynigir gennym. Bydd gwybodaeth bellach ar gael maes o law.

Manylebau Eduqas
Rydym yn parhau i gydweithio ag Ofqual o ran ein cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Eduqas a gynigir gan rai canolfannau yng Nghymru. Bydd gwybodaeth bellach ar gael maes o law.

Gwybodaeth bellach
Deallwn fod hwn yn gyfnod arbennig o anodd i'n hathrawon a'r dysgwyr ac y bydd gan lawer ohonoch gwestiynau pellach yr hoffech i ni eu hateb. Gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y dysgwyr hynny sydd wedi bod yn gweithio'n galed yn paratoi ar gyfer eu cymwysterau dros sawl blwyddyn yn cael eu trin yn deg. Cyn gynted ag y gallwn, byddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin, gan ychwanegu atynt yn yr wythnosau i ddod er mwyn bod mor eglur â phosibl yn ystod y cyfnod heriol hwn. Bydd gwybodaeth ar gael ar ein gwefan a dros ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac anogwn yr athrawon a'r dysgwyr i edrych ar y rhain yn rheolaidd.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich amynedd a'ch cefnogaeth barhaus.