Dweud eich dweud - newidiadau arfaethedig i asesiadau TGAU ac UG/Safon Uwch yn 2022

Dweud eich dweud - newidiadau arfaethedig i asesiadau TGAU ac UG/Safon Uwch yn 2022

Deallwn fod y sefyllfa bresennol wedi amharu'n sylweddol ar addysgu a dysgu y dysgwyr drwy gydol 2020 a 2021. Rydyn ni felly'n cynnal ymgynghoriad ar addasiadau arfaethedig i'r arholiadau ac Asesiad dan Reolaeth TGAU, UG a Safon Uwch yn 2022.

Rydyn ni am glywed eich barn chi fel dysgwr, rhiant neu ofalwr – mae'n bwysig i chi gael dweud eich dweud am ein cynigion.

Dim ond i ddysgwyr yng Nghymru sy'n dilyn ein cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch y mae'r cynigion hyn yn berthnasol.

Sut i roi eich adborth?

Mae ein timau wedi creu tair dogfen, yn amlinellu'r addasiadau ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch. Mae pob dogfen yn cynnwys cyswllt i arolwg lle gallwch chi roi eich adborth, cliciwch ar y cysylltau isod i ddarllen a gwneud sylwadau am ein addasiadau arfaethedig:

Rydych chi'n rhoi eich adborth yn gwbl ddi-enw. Bydd eich adborth yn helpu ein timau i ystyried eich barn chi am ein haddasiadau arfaethedig.

Terfyn amser
Mae'r arolwg ar gael tan 23 Mehefin, a gallwch chi gyflwyno eich adborth tan hynny.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at asesiadau2021@cbac.co.uk