Haf 2020 Diweddariad Coronafeirws: Ymgeiswyr Preifat
Mae CBAC wedi bod yn cydweithio â'r byrddau arholi eraill, ar sail y wybodaeth a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru, i sicrhau nad yw myfyrwyr dan anfantais, cyn belled ag y bo modd, oherwydd y trefniadau i'w rhoi ar waith er mwyn iddynt dderbyn gradd TAG a TGAU wedi'i chyfrifo yn yr haf. Daw hyn yn sgil penderfyniad y llywodraeth i gau ysgolion a cholegau ac i ganslo'r arholiadau er mwyn atal lledaeniad Covid-19.
Yn ei ymgynghoriad mae Cymwysterau Cymru yn cynnig y gall Graddau Asesu Canolfannau a gyflwynir gan ysgolion a cholegau gynnwys ymgeiswyr preifat. Dim ond os yw Pennaeth y Ganolfan yn hyderus bod digon o dystiolaeth o gyflawniad yr ymgeisydd i allu ffurfio barn wrthrychol y gellir gwneud hyn.
Cyhoeddwyd canllawiau pellach gan y byrddau arholi CGC heddiw i gefnogi penaethiaid canolfannau wrth iddynt ddod i benderfyniadau ynghylch ymgeiswyr preifat. Dylent fod yn hyderus bod ganddynt ddigon o dystiolaeth o gyflawniad pob ymgeisydd wrth ffurfio barn a bod y trefniadau'n deg ar gyfer pob ymgeisydd.
Yn ein canllawiau, mae gwybodaeth am y canlynol:
- ffynonellau o dystiolaeth i'w hystyried gan ganolfan wrth gyflwyno gradd asesu canolfannau a threfnau rhestrol
- sut y gall fod angen i rai ymgeiswyr preifat drosglwyddo i ganolfan arall
- sut y gall canolfannau weithio gydag ymgeiswyr preifat y mae angen gradd arnynt yr haf hwn i allu symud ymlaen
Bydd canolfannau'n cysylltu ag ymgeiswyr preifat sydd wedi cofrestru ar gyfer arholiadau TAG a TGAU yr haf hwn. Dylai unrhyw ganolfan gysylltu â ni cyn gynted â phosibl os yw am gael arweiniad pellach ac eisiau derbyn cymeradwyaeth i weithio gydag ymgeiswyr preifat nad yw wedi'u haddysgu'n flaenorol a darparu graddau asesu canolfannau/trefnau rhestrol ar gyfer cymwysterau CBAC/CBAC Eduqas.
Gall ymgeiswyr preifat gysylltu â ni i gael manylion canolfannau a gymeradwywyd i weithio gydag ymgeiswyr preifat nad ydynt wedi’u haddysgu’n flaenorol, i ddarparu gradd asesu canolfannau.Sylwer na fydd y wybodaeth hon ar gael gennym nes y derbynnir cais gan y canolfannau a’u cymeradwyo i weithio gydag ymgeiswyr preifat.
Bydd myfyrwyr nad ydynt yn gallu derbyn gradd yr haf hwn yn cael cyfle i sefyll arholiadau yn y gyfres nesaf fydd ar gael.
Deallwn fod hwn yn gyfnod anodd i bawb, oherwydd yr amgylchiadau digynsail rydym yn eu profi ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i weithio gyda chi er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn gradd deg am eu cymhwyster yn yr haf er mwyn gallu symud ymlaen â’u bywydau.