Digwyddiad lansio Dyfarniadau Galwedigaethol – cadwch eich lle heddiw!

Digwyddiad lansio Dyfarniadau Galwedigaethol – cadwch eich lle heddiw!

Mae'n bleser gennym lansio ein cyfres newydd o Ddyfarniadau Galwedigaethol i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2022.

Rydym wedi bod yn gweithio gydag athrawon ac arbenigwyr pwnc eraill i adolygu a diweddaru ein cyfres o Ddyfarniadau Galwedigaethol CA4, gan ystyried adborth a dderbyniwyd gennych chi a mynd i'r afael â newidiadau i Ofynion Tablau Perfformiad. Rydym hefyd yn cyflwyno dau bwnc newydd i'r gyfres y mae athrawon wedi dweud wrthym y byddent yn fuddiol i'w dysgwyr.

Ymunwch â ni yn un o'n digwyddiadau lansio byw i ddarganfod mwy am y gyfres newydd gyffrous hon o gymwysterau. Bydd pob sesiwn yn para 30-45 munud.

Cadwch eich lle yn ein digwyddiad rhad ac am ddim nawr!

Yn ystod y digwyddiad byddwch yn darganfod:

· yr hyn mae ein Dyfarniadau Galwedigaethol newydd yn ei gynnig i ganolfannau a dysgwyr

· pa bynciau fydd ar gael*

· yr hyn sy'n newid a'r hyn sy'n aros

· sut rydym wedi cynnwys athrawon ac arbenigwyr pwnc eraill yn y broses ddatblygu

· ein dulliau asesu

· pa gefnogaeth ac adnoddau fydd ar gael i athrawon a dysgwyr.

Yn ogystal, bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau i'n Tîm Datblygu Cymwysterau ac i'n Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol.

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y cymwysterau wedi'u hailddatblygu hyn a digwyddiadau yn y dyfodol, tanysgrifiwch i'n diweddariadau pynciol.