Cyngor Coronafeirws

Cyngor Coronafeirws

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio’n agos gyda’r rheoleiddwyr, yr Adran Addysg, a sefydliadau dyfarnu eraill i ystyried sut y byddem, ar y cyd, yn rheoli risgiau penodol a allai effeithio ar arholiadau ac asesiadau yn rhedeg yn llyfn os yw coronafeirws yn lledaenu’n eang.

Fel y mae hi’n sefyll yn awr, dylai dysgwyr, athrawon a chanolfannau barhau i baratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau’r haf fel arfer. Os bydd yr angen yn codi, byddem yn cysylltu â chanolfannau i roi gwybod am unrhyw newidiadau i drefniadau ar gyfer cyfres yr haf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw cyffredinol i sefydliadau addysgol ar eu gwefan, sydd ar gael yma.