Cyhoeddi graddau ar gyfer cymwysterau haf 2020
Neges gan Ian Morgan, Prif Weithredwr
Byddwch yn gwybod yn barod bod Llywodraeth Cymru a’n rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ddydd Mercher 18 Mawrth y penderfynwyd peidio â chynnal yr arholiadau yng Nghymru yr haf hwn.
Sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru’n derbyn gradd deg am eu cymwysterau TGAU, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau yr haf hwn yw ein prif nod ni. Rydym felly’n cydweithio’n agos gyda Cymwysterau Cymru i gytuno ar broses i’w dilyn i fodloni’r amcan allweddol hwn.
Heddiw, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru lythyr i ysgolion a cholegau yn amlinellu prif agweddau’r broses. Defnyddir gwahanol ffynonellau o dystiolaeth megis y marciau a enillwyd gan ddysgwyr mewn asesiadau mewnol ac allanol blaenorol yn ogystal â graddau cymwysterau wedi’u hasesu safonedig gan athrawon.
Amlinellodd Cymwysterau Cymru yn glir ei bod yn ofynnol i raddau wedi’u hasesu gan athrawon fod yn seiliedig ar radd gyffredinol y cymhwyster y mae pob dysgwr yn debygol o’i hennill ar ddiwedd ei gwrs astudio. Mae hyn yn seiliedig ar eu perfformiad mewn amrediad o asesiadau ystafell ddosbarth ac allanol ynghyd â’u hymrwymiad cyffredinol i’w hastudiaethau a’u gallu yn y pwnc. At y dibenion hyn, nid graddau targed neu raddau uchelgeisiol y gall dysgwyr obeithio eu cyflawni yw’r graddau wedi’u hasesu gan athrawon hyn. Byddwn yn ystyried yr amrediad llawn o dystiolaeth, gan gynnwys graddau wedi’u hasesu gan athrawon, gan eu safoni ar draws y garfan gyfan, er mwyn arwain at y radd derfynol i’w dyfarnu i bob dysgwr.
Byddwn yn cysylltu ag ysgolion a cholegau yn ystod mis Ebrill i roi manylion pellach o ran pa bryd a sut y dylid cyflwyno’r graddau wedi’u hasesu gan athrawon i ni.
Rydym yn ymwybodol bod dysgwyr sy’n sefyll cymwysterau UG a dysgwyr blwyddyn 10 sy’n sefyll rhai o’u cymwysterau TGAU yr haf hwn hefyd am gael eglurhad o ran y trefniadau i’w sefydlu i ddarparu ar eu cyfer nhw. Ni allwn ar hyn o bryd gynnig eglurhad o’r fath, ond rydym yn ystyried yr opsiynau ar y cyd â Cymwysterau Cymru. Gallwn gadarnhau y bydd myfyrwyr blwyddyn 10 sy’n sefyll ac yn cyfnewid am gymwysterau TGAU llawn yr haf hwn yn ennill gradd am y cymhwyster, gan y byddwn yn defnyddio’r un broses ar eu cyfer nhw ag ar gyfer y dysgwyr blwyddyn 11.
Rydym yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru ar hyn o bryd ac yn ystyried sut i symud ymlaen o ran y Dystysgrif Her Sgiliau. Mae trafodaethau’n digwydd â’r rheoleiddwyr eraill hefyd ynghylch y cymwysterau lefel 1/2, lefel 3 a’r lefel mynediad rydym yn eu cynnig. Bydd mwy o wybodaeth ar gael maes o law.
Deallwn fod hon yn sefyllfa anodd iawn i’r athrawon a’r dysgwyr ar hyn o bryd. Mae’n bosibl hefyd bod gan lawer ohonoch fwy o gwestiynau rydych am gael ateb iddyn nhw. Gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio’n ddiflino i wneud trefniadau terfynol o ran ein dulliau gweithredu. Rydym am sicrhau bod y dysgwyr hynny sydd wedi gweithio’n galed yn paratoi ar gyfer eu cymwysterau dros sawl blwyddyn yn cael eu trin yn deg. Byddwn yn cyhoeddi rhai Cwestiynau Cyffredin cyn gynted â phosibl, gan ychwanegu atyn nhw yn yr wythnosau i ddod, er mwyn rhoi cymaint o eglurder â phosibl yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.
Diolch yn fawr iawn i chi am eich amynedd ac am eich cefnogaeth barhaus.