Coronafeirws - Arweiniad i Ganolfannau

Coronafeirws - Arweiniad i Ganolfannau

Iechyd a diogelwch ein canolfannau yw'r peth pwysicaf i ni. Rydyn ni felly'n adolygu ein harferion gweithio presennol er mwyn lliniaru effaith gynyddol y pandemig Coronafeirws COVID-19. Rydym yn cydweithio'n agos â'r rheoleiddwyr, yr Adran Addysg, a sefydliadau dyfarnu eraill ar hyn o bryd i ystyried sut byddwn yn mynd ati ar y cyd i reoli'r risgiau penodol a allai effeithio ar weithrediad esmwyth arholiadau ac asesiadau.

Ar hyn o bryd, dylai dysgwyr, athrawon a chanolfannau barhau i baratoi at arholiadau ac asesiadau'r haf yn ôl yr arfer. Os gwneir unrhyw newidiadau i drefniadau cyfres yr haf, hysbysir canolfannau'n ôl yr angen.

Cymedrolwyr ac arholwyr sy'n ymweld â chanolfannau
Rydym yn derbyn nifer mawr o ymholiadau ar hyn o bryd yn holi am drefniadau cymedrolwyr ac arholwyr sy'n ymweld â chanolfannau. Mae ein timau'n gweithio drwy'r holl ymholiadau ar fyrder, ac ymddiheurwn am unrhyw oedi cyn ymateb.

I gynnig cefnogaeth bellach i'n canolfannau, mae tîm pob pwnc yn paratoi rhestr o Gwestiynau Cyffredin. Dylai'r rhain ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych o ran cyflwyno gwaith y byddai cymedrolwr neu arholwr ymweld yn ei asesu fel arfer. Bydd y Cwestiynau Cyffredin hyn i'w gweld yn fuan ar dudalennau'r pynciau unigol.