CBAC yn croesawu'r cyhoeddiad am Asesiadau Di-arholiad

CBAC yn croesawu'r cyhoeddiad am Asesiadau Di-arholiad

Rydym yn croesawu cyhoeddiad Cymwysterau Cymru y bydd Asesu Di-arholiad yn digwydd yn ôl y bwriad yn 2021.

Mae penderfynu fel hyn i barhau â'r Asesiadau Di-arholiad yn ôl yr amserlen yn rhoi eglurder mawr ei angen i ddysgwyr ac athrawon fel ei gilydd. Bydd o gymorth wrth iddynt baratoi ar gyfer y misoedd i ddod. Rydym mewn cyfnod heriol ac oherwydd hynny, mae'n bwysig sylweddoli hefyd bod angen cadw asesiadau mor sefydlog a chyfarwydd â phosibl.

Credwn fod y cam hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y dull asesu'n parhau i fod yn un teg a chytbwys i bob dysgwr – o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Hoffem sicrhau ein hysgolion a cholegau y byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â'r Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Chyflawni a chorff Cymwysterau Cymru i wneud y trefniadau terfynol ar gyfer darpariaeth cymwysterau haf 2021.

Diweddariad am Asesu Di-arholiad: Darllenwch y ddogfen Addasiadau i Asesu Di-arholiad i gael y wybodaeth ddiweddaraf am asesiadau di-arholiad yn 2021