Casglu mewnwelediad - datblygu'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd

Casglu mewnwelediad - datblygu'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd

Yn y misoedd diwethaf, mae ein tîm Datblygu Cymwysterau wedi bod wrthi'n brysur yn datblygu'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd. Wrth i ni gyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn y broses o'i ddatblygu, dyma ein Swyddog Datblygu Cymwysterau, Rachel Dodge, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y daith gyffrous o ddatblygu'r cymhwyster newydd hwn.

"Yn CBAC, rydym wedi sefydlu enw da am ddatblygu cymwysterau arloesol a diddorol. Drwy ddefnyddio ein profiad helaeth, roeddem mewn sefyllfa gryf wrth i ni ddechrau'r broses o ddatblygu'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Fel man cychwyn, ein prif amcan oedd cynllunio cymhwyster cyffrous a oedd yn ymgorffori dulliau a fydd yn ysbrydoli addysgu a dysgu arloesol, ac yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn eu dymuno.

Yn rhan o'r daith hon, gwnaethom ganolbwyntio ar hwyluso deialog â rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae'r dull hwn wedi ein galluogi i goladu amrywiaeth o safbwyntiau o fewn y sector a'r diwydiant addysg a fydd yn sicrhau hirhoedledd y cymhwyster hwn.

Llwyddo o'r cychwyn cyntaf

Cyflwynwyd ein cynigion trosfwaol cychwynnol yn ystod cyfres o weithdai rhyngweithiol yn nhymor yr hydref. Roedd dros gant o athrawon, penaethiaid, arbenigwyr yn y diwydiant, rhieni a chynrychiolwyr addysg uwch yn bresennol yn y gweithdai hyn. Defnyddiwyd yr adborth a gasglwyd i arwain datblygiadau diweddarach ac roedd yn ein galluogi i fireinio ein cynigion.

Gyda'r egwyddorion trosfwaol yn eu lle, yna dechreuom ganolbwyntio ar y pedwar sgìl trosfwaol y bydd gofyn i ddysgwyr eu dangos; Cynllunio a Threfnu, Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau, Creadigrwydd ac Arloesi ac Effeithiolrwydd Personol. Penderfynom nodi'r sgiliau penodol a fyddai'n ffurfio rhan o'r asesiad a chyflwynwyd y rhain i'n rhanddeiliaid mewn ymgynghoriad ar-lein ym mis Ionawr. Cwblhawyd yr ymgynghoriad gan bron 50 o ymatebwyr, ac roedd yn caniatáu i ni adolygu ein cysyniadau a sut gellid eu defnyddio yn ein hasesiadau.

O'r mewnwelediad hwn, roeddem mewn sefyllfa i dyfu, a chafodd tîm o awduron cynnwys eu recriwtio a oedd yn ein cynorthwyo i greu deunyddiau'r cymhwyster, sef y fanyleb, y deunyddiau asesu enghreifftiol a'r canllawiau a fyddai'n llywio ac yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymhwyster.

Grwpiau Cynghori Dynamig

Wrth i'r timau ddatblygu dogfennau'r cymhwyster ymhellach, sefydlwyd dau grŵp cynghori gennym, ac rydym yn ymgynghori â nhw drwy gydol y broses ddatblygu hon. Yn rhan o'n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu mae cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector addysg a thu hwnt, sydd ag amrywiaeth o ran profiad a gwybodaeth a fydd yn ategu ei gilydd. Ymhlith yr aelodau mae ymarferwyr a rheolwyr o adrannau chweched dosbarth ysgolion, colegau addysg bellach, cyflogwyr, sefydliadau addysg uwch, a chyrff allanol sydd â diddordeb yn y cymhwyster.

Roeddem hefyd yn ymwybodol ein bod am gael mewnwelediad gan y defnyddwyr terfynol, ac felly sefydlwyd ein Grŵp Cynghori Dysgwyr, a oedd yn cynnwys dysgwyr 16-19 oed.

O'r trafodaethau adeiladol hyn, a oedd yn aml yn fywiog iawn, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn cyfnod cymharol fyr, a thrwy gydol y broses rydym wedi cael trafodaethau rheolaidd â Cymwysterau Cymru sydd wedi bod yn gefnogol iawn o'n dull.

Cyflwyno gyda hyder

Yn seiliedig ar yr adborth a roddwyd, a gan adeiladu ar gronfa wybodaeth gryf, profiad helaeth ac arbenigedd eang presennol CBAC mewn datblygu, cyflwyno a dyfarnu cymwysterau, rwy'n falch o gadarnhau ein bod bellach wedi cyflwyno ein cynnig cyntaf i Cymwysterau Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn adborth ganddynt.

Wrth i ni barhau ar y daith hon, a nodi'r garreg filltir arwyddocaol hon, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn barod i'n cefnogi a'n harwain drwy'r broses hon. Fel corff, rydym yn hyderus y bydd Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru yn gymhwyster fydd ar flaen y gad yn y sector, a fydd yn rhoi amrywiaeth o sgiliau i ddysgwyr a fydd yn eu galluogi i ffynnu mewn marchnad fyd-eang."