Canslo arholiadau haf 2020 – Cymru
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru a’n rheoleiddwr Cymwysterau Cymru, gallwn gadarnhau yn awr na fydd arholiadau’n cael eu cynnal yng Nghymru eleni.
Gwnaed y penderfyniad digynsail hwn oherwydd argyfwng byd-eang y pandemig corofeirws. Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau iechyd, llesiant a diogelwch ein hathrawon a’n dysgwyr.
Deallwn pa mor arwyddocaol yw’r penderfyniad a’i oblygiadau ar ein dysgwyr. Byddwn yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle fel y gall dysgwyr Cymru dderbyn gradd deg am eu cymwysterau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn. Unwaith y bydd y gwaith hwn wedi symud ymlaen, caiff canolfannau wybod cyn gynted â phosibl sut y byddwn yn gweithredu.