Blwyddyn academaidd newydd - cydweithio â'r gymuned addysg gyfan
Mae'r flwyddyn academaidd newydd wedi dechrau, ac rydym i gyd yn addasu i ffyrdd newydd o weithio. Fodd bynnag, fel chithau, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod ein dysgwyr yn gallu cyflawni eu potensial llawn, er gwaethaf effaith y pandemig COVID-19. Cyn trafod y dyfodol, hoffwn gymryd y cyfle i fyfyrio, a diolch i chi a'ch aelodau am eich cefnogaeth eithriadol i ni, a wnaeth alluogi pob dysgwr yng Nghymru i dderbyn canlyniad cymhwyster yr haf hwn. Gyda'n gilydd, gwnaethom oresgyn effaith cau'r ysgolion a chanslo arholiadau'r haf, a rhoi'r cymwysterau i'n dysgwyr a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen, ac am hynny rwy'n ddiolchgar i chi.
Gyda'r haf eisoes yn teimlo fel atgof pell, nawr yw'r amser i ganolbwyntio ar y dyfodol, ac yn benodol y flwyddyn academaidd hon. Drwy'r haf mae ein timau wedi bod yn cynllunio ac yn paratoi deunyddiau i gefnogi'n hathrawon. Rydym yn deall yr heriau y mae colli amser addysgu a dysgu wedi'u cyflwyno ac rydym wedi ymrwymo i roi'r offer, yr adnoddau a'r gefnogaeth i athrawon a fydd yn eu galluogi nhw i gyflwyno'n cymwysterau yn hyderus eleni.
Yn ddiweddar, mae'n timau pynciau wedi lansio adnoddau newydd rhad ac am ddim, gan gynnwys offer Dysgu Cyfunol i gefnogi arferion addysgu wedi'u haddasu ac adnoddau Arweiniad i'r Arholiad wedi'u hanelu at ddysgwyr sy'n cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i fynd i'r afael yn effeithiol â chwestiynau mewn papurau arholiad. Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn rhyddhau adnoddau rhad ac am ddim ychwanegol wrth i'r tymor fynd rhagddo. Yn ogystal, mae gennym gyfres gynhwysfawr o Gyrsiau Dysgu Proffesiynol a fydd i gyd ar-lein yn 2020/2021, yn cynnwys cyfuniad o weithdai byw a rhyngweithiol, a rhai a recordiwyd ymlaen llaw, a byddwn yn gofyn i chi annog athrawon i fynychu a chael mynediad at y rhain.
Yn ystod yr haf, mae ein timau wedi bod yn gweithio ochr yn ochr gyda Cymwysterau Cymru, i baratoi'r addasiadau ar gyfer asesiadau haf 2021. Hoffwn ddiolch i'r holl athrawon a gyfrannodd at grwpiau ffocws y pynciau ac i'r rhai hynny a roddodd adborth adeiladol i'r ymgynghoriadau. Mae gwybodaeth am addasiadau ar gael ar y dudalen we ganlynol.
Rydym yn gwerthfawrogi adborth yma yn CBAC, a hoffwn ddiolch unwaith eto i'r rhai hynny a gyfrannodd at ein harolygon i randdeiliaid yn gynharach eleni. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn hynod werthfawr ac mae wedi llywio'n datblygiadau a'n gweithgareddau. Ein nod yw parhau i weithio ochr yn ochr â'n hathrawon, i ni fireinio'r hyn rydym yn ei gynnig, er mwyn galluogi i'n cymuned addysgu gyfan lwyddo gyda'n gilydd.
Rydym yn hynod ymwybodol o'r heriau y mae'r pandemig yn parhau i'w cyflwyno i'n cymunedau addysgu. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn parhau i drafod ac yn gwneud paratoadau pe byddai cyfyngiadau posibl pellach yn digwydd ar lefel leol a chenedlaethol. Hoffwn roi sicrwydd i chi i gyd y bydd ein timau ar gael i'ch cefnogi drwy'r cyfnod hwn.
Mae trafod yn agored a gonest yn hynod bwysig yn ystod y cyfnod hwn, ac rwyf wedi croesawu'r cyfle i gwrdd â llawer ohonoch yn rhithiol yn gynharach eleni. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi cwrdd â nifer o Benaethiaid Canolfannau, Undebau, Consortia a rhanddeiliaid allweddol eraill a wnaeth ein galluogi i rannu gwybodaeth am ein gweithgareddau ac i drafod ein safbwyntiau a'n barn. Dros y misoedd nesaf, byddaf yn trefnu cyfarfodydd pellach â chi ac rwyf hefyd yn annog eich aelodau i alw ar arbenigedd ein harbenigwyr pwnc, sydd ar gael i roi cyngor ac arweiniad.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac yn lansio mentrau newydd i gefnogi ein hathrawon a'u dysgwyr. Bydd ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, a byddwn yn cyfathrebu negeseuon allweddol hefyd drwy ein rhestri postio, felly sicrhewch eich bod wedi cofrestru â ni.
Pob dymuniadau da i chi yn ystod y flwyddyn academaidd hon, ac ar ran pawb yn CBAC, hoffwn ddiolch i chi a'ch aelodau sy'n flaenllaw wrth gyflwyno ein cymwysterau.