Awgrymiadau i fyfyrwyr sy'n paratoi i ddychwelyd i'r ysgol
Gan fod yr ysgolion yn ailagor y tymor hwn, rydym wedi siarad â Dr Rachel Dodge, Rheolwr Datblygu Cymwysterau (a PhD mewn Seicoleg – yn canolbwyntio ar lesiant myfyrwyr) i holi sut gall myfyrwyr fod yn ystyriol o'u llesiant eu hunain a chefnogi eu ffrindiau yn ystod y cyfnod anghyffredin hwn.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn eich amserlen bersonol
Un o ganlyniadau'r cyfnod clo hwn yw bod llawer ohonom wedi colli ein trefn arferol yn llwyr. Yn y cyfnod cyn i chi ddychwelyd i'r ysgol beth am geisio mynd nôl i'r drefn oedd gennych yn ystod y tymor. Cynnal patrymau cysgu da yw rhan fawr o hyn. Mae rhai awgrymiadau gwych gan y Mental Health Foundation am sut i gysgu'n well.
- Siaradwch am sut rydych chi'n teimlo
Yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19), daeth ansicrwydd a diweddariadau newyddion cyson yn rhan barhaol o'n bywydau dyddiol. Mae'n bwysicach byth erbyn hyn felly i siarad am ein teimladau. Mae'n debyg eich bod yn eithaf ansicr am ddychwelyd i'r ysgol. Cofiwch beidio â chadw eich ofnau a’ch pryderon i chi eich hun. Gallwn ni ddod i ddeall ein teimladau a ni ein hunain yn well drwy roi'r teimladau hynny mewn geiriau. Mae gwneud hyn yn ein gorfodi i feddwl go iawn am ein teimladau ac i'w rhoi mewn rhyw fath o drefn. Gall teulu a ffrindiau ddod i'n deall ni'n well hefyd os byddwn ni'n siarad am ein teimladau.
- Canolbwyntiwch ar y cadarnhaol
Rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar bethau negyddol yn hytrach na phethau cadarnhaol. Tuedd negyddol yw'r enw ar hwn mewn seicoleg. Mae gwneud rhestr o'r pethau y gallwn ni fod yn ddiolchgar amdanyn nhw yn un ffordd o wrthbwyso'r duedd negyddol. Gallwch chi hefyd ddechrau meddwl am y pethau rydych chi'n edrych ymlaen atyn nhw pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r ysgol. Mae llawer o fyfyrwyr wedi dweud eu bod yn edrych ymlaen at weld eu ffrindiau a'u hathrawon eto, ac i gael mynd i rywle gwahanol.
- Derbyniwch y bydd pethau'n wahanol
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen am yr hyn fydd yn wahanol yn eich ysgol. Bydd pob ysgol yn mynd ei ffordd ei hun. Mae'n debyg y byddan nhw'n gofyn i chi gadw pellter cymdeithasol a bydd eich grŵp chi'n un llawer llai. Mae'n debyg y bydd eich ystafelloedd dosbarth yn edrych yn wahanol ac efallai na fydd yr amserlen yr un fath. Y mwyaf y gallwch chi ei ddeall am y gwahaniaethau hyn y gorau y byddwch chi'n ei deimlo pan fyddwch chi'n ôl yn yr ysgol. Bwriad dychwelyd i'r ysgol yn awr yw 'Ailgydio, Dal i fyny a Pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi'. Beth am wneud rhestr o'r hyn yr hoffech chi edrych arno eto gyda'ch athrawon, neu gwestiynau yr hoffech chi eu gofyn iddyn nhw cyn i wyliau'r Haf ddechrau?
- Cofiwch ofalu am bobl eraill
Ar adegau fel hyn, mae'n ddigon hawdd i'ch ofnau a'ch pryderon eich hun gymryd drosodd. Ond, yn ôl gwaith ymchwil, mae'r rheiny sy'n talu sylw i bobl eraill sydd mewn angen, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng yn tueddu i fod yn fwy hapus ac yn fwy iach. Beth am anfon neges destun, ffonio neu ddefnyddio llwyfan rhithiol i ddal i fyny â'ch ffrindiau ac i holi sut maen nhw cyn mynd nôl i'r ysgol? Cofiwch hefyd, ni fydd pawb yn gallu dychwelyd i'r ysgol. Bydd angen i'r myfyrwyr hynny sydd ar y rhestr warchod barhau i astudio o gartref. Drwy gadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau sydd yn y sefyllfa hon, byddan nhw'n dal i deimlo'n rhan o bethau. Pan fyddwch chi'n ôl yn yr ysgol, cofiwch y bydd pobl yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol. Gallwch chi helpu i gefnogi'r bobl o'ch cwmpas os ydych chi'n ymwybodol o hyn.