Awgrymiadau i fyfyrwyr sy'n paratoi i ddychwelyd i'r ysgol

Awgrymiadau i fyfyrwyr sy'n paratoi i ddychwelyd i'r ysgol

Mae’n dealladwy teimlo cymysgedd o emosiynau ynglŷn â dychwelyd I’r ysgol yr wythnos nesaf. I rhai ohonoch, hwn fydd y tro cyntaf I chi welsh eich ffrindiau am amser hir, gallai deimlo’n rhyfedd cael trefn eto a gallwch ddisgwyl I bethau fod yn wahanol.

Gwnaethom siarad â Dr Rachel Dodge, Rheolwr Datblygu Cymwysterau (a PhD mewn Seicoleg – yn canolbwyntio ar les myfyrywr) am sut gallwch amdiffyn eich lles a chefnogi eich ffirndiau yn ystod yr amser anarferol hwn.

 

1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn eich amserlen bersonol

Un o ganlyniadau'r cyfnod clo hwn yw bod llawer ohonom wedi colli ein trefn arferol yn llwyr.  Yn y cyfnod cyn i chi ddychwelyd i'r ysgol beth am geisio mynd nôl i'r drefn oedd gennych yn ystod y tymor.  Cynnal patrymau cysgu da yw rhan fawr o hyn.  Mae rhai awgrymiadau gwych gan y Mental Health Foundation am sut i gysgu'n well.

2. Siaradwch am sut rydych chi'n teimlo

Yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19), daeth ansicrwydd a diweddariadau newyddion cyson yn rhan barhaol o'n bywydau dyddiol.  Mae'n bwysicach byth erbyn hyn felly i siarad am ein teimladau.  Mae'n debyg eich bod yn eithaf ansicr am ddychwelyd i'r ysgol. Cofiwch beidio â chadw eich ofnau a’ch pryderon i chi eich hun.  Gallwn ni ddod i ddeall ein teimladau a ni ein hunain yn well drwy roi'r teimladau hynny mewn geiriau.  Mae gwneud hyn yn ein gorfodi i feddwl go iawn am ein teimladau ac i'w rhoi mewn rhyw fath o drefn. Gall teulu a ffrindiau ddod i'n deall ni'n well hefyd os byddwn ni'n siarad am ein teimladau.

3. Canolbwyntiwch ar y cadarnhaol

Rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar bethau negyddol yn hytrach na phethau cadarnhaol. Tuedd negyddol yw'r enw ar hwn mewn seicoleg.  Mae gwneud rhestr o'r pethau y gallwn ni fod yn ddiolchgar amdanyn nhw yn un ffordd o wrthbwyso'r duedd negyddol. Gallwch chi hefyd ddechrau meddwl am y pethau rydych chi'n edrych ymlaen atyn nhw pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r ysgol.  Mae llawer o fyfyrwyr wedi dweud eu bod yn edrych ymlaen at weld eu ffrindiau a'u hathrawon eto, ac i gael mynd i rywle gwahanol.

4. Derbyniwch y bydd pethau'n wahanol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen am yr hyn fydd yn wahanol yn eich ysgol.  Bydd pob ysgol yn mynd ei ffordd ei hun.  Mae'n debyg y byddan nhw'n gofyn i chi gadw pellter cymdeithasol a bydd eich ystafelloedd dosbarth yn edrych yn wahanol ac efallai na fydd yr amserlen yr un fath.  Y mwyaf y gallwch chi ei ddeall am y gwahaniaethau hyn y gorau y byddwch chi'n ei deimlo pan fyddwch chi'n ôl yn yr ysgol. 

5. Cofiwch ofalu am bobl eraill

Ar adegau fel hyn, mae'n ddigon hawdd i'ch ofnau a'ch pryderon eich hun gymryd drosodd.  Ond, yn ôl gwaith ymchwil, mae'r rheiny sy'n talu sylw i bobl eraill sydd mewn angen, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng yn tueddu i fod yn fwy hapus ac yn fwy iach.  Beth am anfon neges destun, ffonio neu ddefnyddio llwyfan rhithiol i ddal i fyny â'ch ffrindiau ac i holi sut maen nhw cyn mynd nôl i'r ysgol? Bydd cadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau ar yr adeg hon yn eich helpu I deimlo’n fwy hamddenol a byddwch chi’n gwybod eich bod chi yn yr un sefyllfa. Pan fyddwch chi'n ôl yn yr ysgol, cofiwch y bydd pobl yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol.  Gallwch chi helpu i gefnogi'r bobl o'ch cwmpas os ydych chi'n ymwybodol o hyn.

 

Oso es gennych unrhyw awgrymiadau eraill yr hoffech eu rhannu, gallwch gysylltu â ni ar Twitter a Facebook. Pob lwc are ich wythnos gyntaf yn ôl yn yr ysgol!

CBAC yn cyhoeddi lansiad eu cynnwys dysgu cyfunol newydd
CBAC yn cyhoeddi lansiad eu cynnwys dysgu cyfunol newydd
Blaenorol
Ymgeiswyr yn casglu eu canlyniadau arholiadau TGAU a Bagloriaeth Cymru 2020 heddiw
Ymgeiswyr yn casglu eu canlyniadau arholiadau TGAU a Bagloriaeth Cymru...
Nesaf