9 Awgrym da i'ch helpu i adolygu

9 Awgrym da i'ch helpu i adolygu

Mae arholiadau'r haf ar y gorwel, felly 'NAWR yw'r adeg i ddechrau adolygu! I lawer o fyfyrwyr, y cam mwyaf yw cychwyn yr adolygu. Gan gofio hyn, rydym wedi llunio 9 awgrym da i'ch helpu chi i fynd ati'n effeithiol i ddechrau adolygu. 

1. Byddwch yn drefnus

Anghofiwch wthio eich hun i adolygu am hanner nos – mae angen dechrau trefnu 'nawr. Drwy ddechrau 'nawr byddwch yn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o amser i ganolbwyntio, yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi, ac yn mynd dros yr holl wybodaeth berthnasol.

Byddwch yn arbed llawer o amser gwerthfawr yn y tymor hir os ydych yn drefnus a bydd yn eich helpu chi i osgoi unrhyw straen munud olaf. Edrychwch ar eich deunyddiau cwrs yn gyntaf. Mae hyn yn cynnwys yr holl nodiadau a thaflenni gan eich athrawon, unrhyw lyfrau a ddefnyddiwyd yn y dosbarth, ac unrhyw adnoddau ychwanegol – casglwch y rhain at ei gilydd mewn un man.

Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o ddeunydd ysgrifennu, gan gynnwys: 

  • Beiros a phensiliau
  • Cardiau fflach
  • Uwcholeuwyr
  • Nodiadau gludiog
  • Papur

2. Gwnewch y gorau o'n hadnoddau rhad ac am ddim

Enwch y pwnc – mae popeth yno i chi. Gan gydweithio'n agos gydag athrawon ac arweinwyr pwnc rydym ni wedi creu dewis heb ei ail o adnoddau digidol rhad ac am ddim i'ch helpu chi i adolygu, ac mae'r rhain i gyd ar gael yn rhad ac am ddim.

3. Penderfynwch ar eich arddull dysgu

Mae pawb yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol, felly mae'n allweddol eich bod yn creu amserlen sy'n gweithio i chi er mwyn gallu adolygu'n effeithiol. Mae nifer o erthyglau gwych ar gael yn archwilio arddulliau dysgu gwahanol. Dyma enghraifft o gwis defnyddiol (ar gael yn Saesneg yn unig) i'ch ysgogi ar eich taith i ddarganfod eich arddull dysgu.

Cymysgwch bethau! Arbrofwch gydag amrywiol dechnegau adolygu gwahanol. Os nad ydych yn rhoi cynnig ar rywbeth ni fyddwch yn gwybod beth sy'n gweithio orau i chi.

4. Cyn-bapurau – eich ffrind gorau o hyn ymlaen!

Mae defnyddio cyn-bapurau yn rhywbeth y mae'n rhaid ei wneud wrth adolygu. Byddan nhw'n rhoi dealltwriaeth i chi o sut mae'r arholiad yn gweithio a'r math o gwestiynau i'w disgwyl. Maen nhw'n wych hefyd os ydych chi am roi cwis bach i chi eich hun.

Ydych chi wedi edrych ar y Banc Cwestiynau? Mae'n rhad ac am ddim a gallwch ei ddefnyddio i ddewis a dethol cwestiynau o filoedd o gwestiynau arholiadau'r gorffennol. Darganfyddwch y cwestiynau sydd eu hangen arnoch chi, ychwanegwch nhw at eich papur ac yna allforiwch nhw gyda'r cynllun marcio perthnasol a sylwadau'r arholwr.

Cofiwch wneud nodyn o unrhyw gwestiynau y cawsoch drafferth â nhw ac ewch nôl i ailedrych ar y testunau hyn yn eich sesiwn adolygu nesaf. 

5. Gan bwyll y mae ei gwneud hi

Drwy bwyllo a chymryd eich amser bydd gennych fwy o gymhelliant a gallwch ganolbwyntio am fwy o amser. Trefnwch eich adolygu'n sesiynau llai (tua 25-30 munud ar y tro) gydag egwyliau rheolaidd.

Cofiwch, mae'n bwysig gwobrwyo eich hun gyda rhywfaint o "amser i chi eich hun". Gall hynny fod yn gymdeithasu gyda ffrindiau, yn chwarae ar eich consol gemau neu'n diweddaru eich cyfryngau cymdeithasol. Peidiwch ag anghofio ymlacio a gwneud amser i chi eich hun wrth astudio.

Rhowch gymhelliant i chi eich hun, er enghraifft, mynd i'r sinema, neu goginio eich hoff bryd o fwyd ar ôl adolygu'n ddwys a diderfyn am gyfnod.

6. Ataliwch yr emoji

Peidiwch â chael eich dymchwel gan eich ffôn symudol neu dabled – ewch â phopeth sy'n tynnu sylw i ffwrdd o'r man lle rydych yn astudio. Anwybyddwch unrhyw synau hysbysu a swigod teipio testun, byddan nhw'n dal i fod yno ar ôl eich sesiwn adolygu 30 munud o hyd.


Ond os ydych chi'n ohiriwr proffesiynol a'r ffôn yn tynnu eich sylw o hyd, mae rhai apiau gwych i'w cael fydd yn helpu i ddileu'r temtasiwn yn llwyr. Er enghraifft, mae'r ap Cold Turkey (ar gael yn Saesneg yn unig) hwn yn atal dros dro yr holl gyfryngau cymdeithasol, gemau ac unrhyw apiau eraill sy'n tynnu sylw. 

7. Llyncu digonedd o ddŵr i lwyddo?

Yfwch ddigonedd o ddŵr a gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch hydradu! Dangosodd astudiaethau y gall yfed dim ond un gwydraid o ddŵr y dydd helpu i gynyddu eich lefelau cynhyrchedd ac egni.

Beth am ddefnyddio ap rhad ac am ddim i'ch helpu i fonitro faint rydych yn ei yfed bob dydd? Un o sawl ap rhad ac am ddim sydd ar gael yw My Water Balance (ar gael yn Saesneg yn unig).

8. Peidiwch â chadw pethau i chi eich hun

Mae poeni am arholiadau yn rhywbeth cwbl normal. Gall rhywfaint o bwysau fod yn gymhelliad gwych, gan eich helpu i weithio a meddwl yn fwy effeithiol. Ond, os ydych yn teimlo eich bod yn mynd i boeni am bopeth, mae'n bwysig siarad am y peth.

Gall siarad â ffrind, athro neu aelod o'r teulu am eich teimladau fod yn ffordd wych o liniaru unrhyw bryderon sydd gennych.

Dyma rai gwefannau llawn gwybodaeth a chyngor am ymdopi â phwysau arholiadau (ar gael yn Saesneg yn unig).

Mae apiau i gefnogi llesiant yn dod yn llawer mwy poblogaidd hefyd. Er enghraifft, mae'r GIG wedi creu ap rhad ac am ddim o'r enw WellMind (ar gael yn Saesneg yn unig), yn benodol i helpu gyda gorbryder.

9. Byddwch yn bositif!

Cofiwch y byddwch chi'n cael budd yn y tymor hir o aberthu yn y tymor byr. Meddyliwch am ba mor wych y byddwch chi'n teimlo ar ddiwedd eich holl arholiadau. Gallwch chi wedyn fwynhau gwyliau'r haf.

Dechreuwch adolygu heddiw – byddwch chi'n ddiolchgar yn nes ymlaen.