Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch

new_releases

Dyfernir y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch a Bagloriaeth Cymru Uwch am y tro olaf yn haf 2024.

Dysgu: Medi 2015
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Mae'r fanyleb hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gyflawni dau gymhwyster: Bagloriaeth Cymru Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau Uwch 

Bagloriaeth Cymru Uwch 

 

Bagloriaeth Cymru Uwch 

I ennill y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch, mae'n rhaid i ddysgwr gwblhau pob elfen ar yr olwyn. 

Dyfernir y cymhwyster fel gradd Llwyddo pan fydd dysgwr wedi llwyddo yn y Dystysgrif Her Sgiliau a'r holl Gymwysterau Ategol. Mae'n dangos, yn yr un lle, gallu academaidd a chymhwysedd sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. 

Tystysgrif Her Sgiliau Uwch 

Cynlluniwyd y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch i alluogi dysgwyr i ennill a chymhwyso amrywiaeth o sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd mewn lleoliadau a chyd-destunau gwahanol sy'n rhoi addysg ehangach i ddysgwyr. Bydd yn cynnig profiadau i gefnogi pynciau eraill a fydd yn golygu bod dysgwyr yn fwy parod i symud ymlaen yn y dyfodol – i'r brifysgol, hyfforddiant pellach neu i gyflogaeth. 

Mae 4 cydran i'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch: 

  • Project Unigol (50%) 
  • Her Menter a Chyflogadwyedd (20%) 
  • Her Dinasyddiaeth Fyd-eang (15%) 
  • Her y Gymuned (15%) 

I ennill y cymhwyster, mae'n rhaid i ddysgwyr lwyddo yn yr holl gydrannau. Caiff y marciau eu hadio at ei gilydd i roi gradd A* – E, sy'n gyfwerth â graddau Safon Uwch. Y radd hon neu'r pwyntiau tariff UCAS cyfatebol fydd yn cael eu cynnwys mewn cynigion gan brifysgolion. 

Mae'r 7 sgìl yn ymwneud â chymhlethdod; maent yn amlweddog, gan gynnwys llawer o rannau gwahanol ond cysylltiedig. 

Llythrennedd 

Y gallu i fynegi syniadau cymhleth yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan addasu iaith a therminoleg mewn ffordd sy'n briodol i'r gynulleidfa 

Rhifedd 

Y gallu i goladu, dadansoddi a chyflwyno data/gwybodaeth rhifiadol cymhleth o amrywiol ffynonellau, gan ddethol ystyr priodol 

Llythrennedd Digidol 

Y gallu i ddeall a defnyddio technoleg ddigidol at ddibenion cymhleth, mewn ffordd sy'n briodol i'r gynulleidfa 

Cynllunio a Threfnu 

Y gallu i reoli eich hun a/neu bobl eraill, adnoddau ac amgylchiadau i gyrraedd nod penodol sy'n gymhleth 

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau 

Y gallu i gasglu gwybodaeth berthnasol, nodi materion allweddol, cysylltu gwybodaeth a'i chymharu, a dod i gasgliadau er mwyn datrys problemau cymhleth 

Creadigrwydd ac Arloesi 

Y gallu i gynhyrchu syniadau cymhleth gwreiddiol a thrawsnewid syniadau mewn ffordd ymarferol i ddatblygu cynnyrch, gwasanaeth, proses, system neu ryngweithio cymdeithasol newydd neu well 

Effeithiolrwydd Personol 

Y gallu i addasu eich sgiliau a'ch priodoleddau i sicrhau canlyniadau o safon uchel. Addasu eich ymddygiad ar gyfer tasgau, sefyllfaoedd ac unigolion. 

Mae'r cymhwyster Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru Uwch yn uchel eu parch gan Brifysgolion. Nid yn unig y mae'r Dystysgrif Her Sgiliau wedi'i chynnwys mewn llawer o gynigion ond mae'r sgiliau a ddatblygir yn cefnogi dysgwyr yn llawn i addasu i astudiaeth Addysg Uwch.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.

Adnoddau Addysgol Digidol CBAC

  • Cyrsiau i ddod
  • Deunyddiau o ddigwyddiadau blaenorol
photo of Caroline Morgan
Oes gennych chi gwestiwn?
Caroline Morgan ydw i
Phone icon (Welsh) 029 2026 5319
Swyddog Pwnc Tystysgrif Her Sgiliau Uwch
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Pennaeth Sgiliau a Llwybrau
person_outline Sara Davies
Phone icon (Welsh) 029 2026 5191
Cydlynydd Tîm ar gyfer CGaTh a Darpariaeth Sgiliau
person_outline Emma Baldwin
Phone icon (Welsh) 01443 561146
Tîm Gweithrediadau Bagloriaeth Cymru
Cysylltiadau Gweinyddu
Ar gyfer pob ymholiad mae'r tîm wrth law i helpu.
Datblygiad Proffesiwn Parhaus
Arbenigwyr Datblygu Proffesiynol yn barod i ateb cwestiynau ar ein holl gyrsiau hyfforddi.
Phone icon (Welsh) 029 2026 5024
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Caroline Morgan