Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen

Dysgu: Medi 2015
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Mae'r fanyleb hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gyflawni dau gymhwyster. Yn dibynnu ar lefel y dysgwr, gallai ennill y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol neu Sylfaen; a'r Dystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol neu Sylfaen. 

Sut mae dysgwyr yn ennill Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen? 

I ennill y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen, mae'n rhaid i ddysgwr gwblhau pob elfen o'r olwyn isod. 

Dyfernir Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol ar radd Llwyddo pan fydd dysgwyr yn cyflawni pob elfen o'r olwyn ar radd A* i C. 

Dyfernir Bagloriaeth Cymru Sylfaen ar radd Llwyddo pan fydd dysgwyr yn cyflawni Llwyddo* neu Llwyddo yn y Dystysgrif Her Sgiliau, ac A* i G yn y cymwysterau eraill ar yr olwyn.  

Mae 'Olwyn Bagloriaeth Cymru' yn dangos gallu a chymhwysedd sgiliau academaidd dysgwr i gyd mewn un lle. 

 

Sut mae dysgwyr yn cyflawni Cymhwyster Tystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen? 

Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn gymhwyster annibynnol.Gellir ei gyflawni a'i ddyfarnu o hyd, hyd yn oed heb y cymwysterau eraill sy'n rhan o Fagloriaeth Cymru. Elfen uchaf yr olwyn Bagloriaeth Cymru yw'r Dystysgrif Her Sgiliau a gynlluniwyd i ddarparu cyfrwng i ddysgwyr 14-16 oed atgyfnerthu a datblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd. Bydd y cymhwyster yn helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer y dyfodol drwy feithrin sgiliau, priodoleddau a mathau o ymddygiad a gaiff eu gwerthfawrogi gan addysgwyr ôl-16 a darpar gyflogwyr. 

 

Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau ar lefel Genedlaethol/Sylfaen wedi'i graddio fel a ganlyn: 

Tystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol – Gradd A* i C 

Tystysgrif Her Sgiliau Sylfaen – Llwyddo* neu Llwyddo 

Trosolwg o'r Dystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol/Sylfaen Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn cynnwys 4 cydran: 

  • Project Unigol (50%) 
  • Her Menter a Chyflogadwyedd (20%) 
  • Her Dinasyddiaeth Fyd-eang (15%) 
  • Her y Gymuned (15%) 

Ar draws y 4 cydran hyn, asesir 7 sgìl hanfodol a chyflogadwyedd: 

Llythrennedd 

Dangos sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando i gyfathrebu syniadau yn effeithiol ag eraill. 

Rhifedd 

Casglu, dehongli a chyflwyno data rhifiadol neu wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau gan ddefnyddio technegau digidol. 

Llythrennedd Digidol 

Deall a defnyddio technolegau digidol yn effeithiol at ddibenion gwahanol. 

Cynllunio a Threfnu 

Rheoli eich hun, pobl eraill, adnoddau ac amgylchiadau i gyrraedd nod penodol. 

Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau 

Casglu gwybodaeth allweddol i adnabod safbwyntiau gwahanol a gwneud penderfyniadau i ddatrys problemau. 

Creadigrwydd ac Arloesi 

Addasu sgiliau a phriodoleddau personol i gyflawni targedau a osodwyd. 

Effeithiolrwydd Personol 

Addasu sgiliau a phriodoleddau personol i gyflawni targedau a osodwyd. 

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.

 

Adnoddau Addysgol Digidol CBAC

  • Cyrsiau i ddod
  • Deunyddiau o ddigwyddiadau blaenorol
photo of Sara Davies
Oes gennych chi gwestiwn?
Sara Davies ydw i
Phone icon (Welsh) 029 2026 5191
Pennaeth Sgiliau a Llwybrau
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cydlynydd Tîm ar gyfer CGaTh a Darpariaeth Sgiliau
person_outline Emma Baldwin
Phone icon (Welsh) 01443 561146
Swyddog Cefnogaeth Bagloriaeth Cymru a Sgiliau
person_outline Nia Williams
Phone icon (Welsh) 029 2026 5338
Cysylltiadau Gweinyddu
Ar gyfer pob ymholiad mae'r tîm wrth law i helpu.
Datblygiad Proffesiwn Parhaus
Arbenigwyr Datblygu Proffesiynol yn barod i ateb cwestiynau ar ein holl gyrsiau hyfforddi.
Phone icon (Welsh) 029 2026 5024
Tîm Gweithrediadau Bagloriaeth Cymru
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Caroline Morgan